Mae Gwyliau Bwyd, Marchnadoedd Artisan a ffeiriau lleol yn boblogaidd iawn ar draws y rhanbarth ac mae masnachwyr lleol yn awyddus i gymryd rhan ynddynt, ond mae’r Safonau Masnach bellach yn rhybuddio pawb sy’n ystyried cymryd rhan mewn digwyddiad o’r fath i fod yn ofalus iawn a gwirio gyda’r lleoliad a hysbysebir cyn darparu unrhyw arian os nad ydynt yn adnabod yr unigolyn sy’n hysbysebu.
Maent wedi dod i wybod yn ddiweddar am gyfrif facebook sy’n defnyddio’r enw Elvis Kosegi, ond gallant hefyd fod yn defnyddio enwau eraill nad ydynt yn ymwybodol ohonynt i gynnig stondinau mewn ffeiriau haf ffug yng Nghanolfan Goffa Brynteg am £40 – mae un enghraifft yn gofyn am daliadau drwy Paypal – gweler diwedd yr erthygl.
Mae’r cyfrif bellach wedi cael ei ddileu ar ôl i ddefnyddiwr roi gwybod am eu hamheuon.
Meddai Roger Mapleson, Swyddog Arweiniol Safonau Masnach a Thrwyddedu, “Er nad yw’r twyll hwn yn un soffistigedig iawn, mae £40 yn swm sylweddol o arian i’w golli gan fasnachwyr lleol neu ranbarthol, a gallai’r twyllwr wneud cannoedd neu hyd yn oed filoedd o bunnoedd drwy hysbysebu ar grwpiau facebook lleol neu gyfryngau cymdeithasol eraill.
“Byddwch yn wyliadwrus iawn cyn rhoi unrhyw arian a gwiriwch fod y digwyddiad yn bodoli a bod y gwerthwr yn ddilys. Mae e-bost neu alwad ffôn sydyn i’r lleoliad yn ffordd dda o wirio bod y digwyddiad yn un dilys ac os felly, pwy sy’n trefnu.”
Os ydych chi’n credu eich bod wedi cael eich twyllo, dylech roi gwybod i Action Fraud drwy eu gwefan neu drwy ffonio 0300 123 2040.
Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Galw ar Fusnesau Wrecsam – Ydych chi’n gymwys i wneud cais i’r Gronfa Paratoi at y Dyfodol?