Gwnaeth gwaith i ddiogelu ein treftadaeth ac adfywio eiddo yng nghanol tref Wrecsam gymryd cam ymlaen yn ddiweddar, pan gafodd disgyblion y cyfle i fynychu digwyddiad yng Ngholeg Cambria i ddysgu am sgiliau adeiladu treftadaeth.
Mae’r gwaith yn dilyn cyhoeddiad y llynedd fod £1.5 miliwn wedi’i ddyfarnu i helpu i adnewyddu ac adfywio eiddo yn Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam.
Gwnaeth rhaglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol gyflenwol – gyda’r nod o uwchsgilio masnachwyr a chontractwyr – gymryd cam ymlaen arall yn ddiweddar pan fynychodd pobl ifanc y digwyddiad yng Ngholeg Cambria.
Bydd rhai o’n partneriaid sy’n ymwneud â’r Cynllun Treftadaeth Treflun a’r rhaglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol yn ymuno â’r disgyblion, ac roeddent yn gallu siarad â chyflogwyr a hyfforddwyr.
Rhoddodd y diwrnod y cyfle i:
- Gael taith o amgylch y campws
- Siarad gyda thiwtoriaid adeiladu.
- Deall yr angen am sgiliau mewn adeiladu treftadaeth.
- Mynychu sgyrsiau i archwilio’r pwnc yn fwy manwl.
- Cael mynediad i waith posibl a lleoliadau ysgol drwy Gynllun Treftadaeth Treflun Wrecsam.
“Mae dy ddwylo wedi eu creu ar gyfer gwychder”
Fe wnaethom ni weithio gyda’r bardd llafar Evrah Rose o Wrecsam i weld a fedrai hi grynhoi naws y prosiect – ac fe ysgrifennodd ddarn i atgoffa pobl bod eu dwylo wedi eu creu ar gyfer gwychder.
Edrychwch ar y fideo isod i weld Evrah yn darllen ei phennill…
“Dyma gyfle gwych i’r rheiny sydd â diddordeb mewn crefft”
Dywedodd y Cyng. Terry Evans, Aelod Arweiniol Perfformiad Economaidd ac Adfywio: “Mae llawer o waith cyffrous wedi ei gynllunio yn Wrecsam drwy’r Cynllun Treftadaeth Treflun, a’r rhaglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol, dyma gyfle gwych i bobl ifanc Wrecsam sydd â diddordeb yn y crefftau traddodiadol.
“Bydd cyflogwyr wastad yn chwilio am y rheiny sydd â’r sgiliau ychwanegol, a nod digwyddiadau fel hwn yw dangos i bobl ifanc sut gallant gael mynediad i’r hyfforddiant yn y sgiliau mwy arbenigol sydd eu hangen gan gyflogwyr yn y sector adeiladu treftadaeth.”
Darparwyd y cwrs hwn yn rhad ac am ddim drwy raglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol Wrecsam. Mae wedi derbyn arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru a sicrhawyd cyllid drwy hyfforddiant ‘Rho Gynnig Arni’, menter gan Lywodraeth Cymru.
Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch
COFRESTRWCH FI RŴAN