Bydd digwyddiadau i gofio Diwrnod y Cadoediad yn cael eu cynnal yn Sgwâr y Frenhines ddydd Iau, 11 Tachwedd, am 11am.
Am 10.59am, bydd y biwglwr yn canu’r “Caniad Olaf”, bydd seiren cyrch awyr y rhyfel yn seinio, a chynhelir dau funud o dawelwch.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Os byddwch chi yn Wrecsam yn ystod amser y gwasanaeth, rydym ni’n eich annog ymuno â ni i nodi’r 2 funud o dawelwch yn ddiogel, gan gadw pellter cymdeithasol lle bo hynny’n bosibl.
Sul y Cofio
Bydd Gwasanaeth Cofio blynyddol eleni yn cael ei gynnal gyda rhywfaint o gyfyngiadau ddydd Sul 14 Tachwedd, 2021 ger Cofeb y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ym Modhyfryd, Wrecsam.
Gallwch ddarllen mwy am hyn yma.
Dywedodd y Cynghorydd David Griffiths, Cefnogwr y Lluoedd Arfog: “Er ein bod yn falch o allu dod at ein gilydd eleni i gofio’n barchus, dylem wneud hynny â gofal a chadw pellter cymdeithasol a gwisgo gorchuddion wyneb lle y bo’n bosibl.
“Dyma’r ail flwyddyn yng nghanol pandemig i ni gofio aberthau’r rhai a dalodd y pris eithaf trwy wasanaethu eu gwlad, a dylai diogelwch a pharch fod yn flaenoriaeth i bawb sy’n cymryd rhan.”
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL