Yn Wrecsam, un ddefod yn benodol sy’n gwahaniaethu ein Dydd y Cofio ni oddi wrth gweddill y DU yw caniad seiren cyrch awyr yr Ail Ryfel Byd. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn llwyddiannus iawn y llynedd oherwydd i’r seiren beidio â chanu ac felly cafwyd dau funud o dawelwch ac yna dau funud arall o dawelwch hefyd!
Y newyddion da yw bod y seiren bellach wedi’i hadnewyddu a’i hatgyweirio’n llwyr ac wedi cymryd ei lle unwaith eto y tu allan i Amgueddfa ac Archifdy Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar Stryt Y Rhaglaw. Bydd y seiren yn cael ei phrofi ar fore dydd Gwener 27 Hydref yn barod ar gyfer y seremoni ar Sgwâr y Frenhines ar 11 Tachwedd.
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Dywedodd y Cynghorydd David Griffiths, Cefnogwr y Lluoedd Arfog,: “ Rwyf yn falch iawn ein bod wedi llwyddo i atgyweirio’r seiren mewn da bryd ar gyfer Dydd y Cofio eleni, mae ei sain yn ychwanegu at naws y diwrnod ac yn dilyn yr atgyweiriad hwn, gobeithio y can glywed ei sain am flynyddoedd i ddod!” ’
DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.