Erthygl gwadd – Eisteddfod Genedlaethol
Yr Eisteddfod Genedlaethol yw un o wyliau celfyddydol mwyaf Ewrop, sy’n denu dros 170,000 o ymwelwyr yn flynyddol.
Bydd yr Eisteddfod yn dychwelyd i Wrecsam wedi blwch o 14 o flynyddoedd, o 2-9 Awst 2025.
Ymhlith uchafbwyntiau’r ŵyl mae’r Ddawns Flodau a Chynnyrch y Meysydd a berfformir yn ystod Seremonïau’r Orsedd yn yr Eisteddfod ei hun a hefyd yn Seremoni’r Cyhoeddi a gynhelir yn yr ardal ar 27 Ebrill eleni. Mae cyfle i 20 o blant o ddalgylch yr Eisteddfod i fod yn rhan o gyflwyno’r ddawns. Estynnir gwahoddiad i blant sydd ar hyn o bryd ym mlwyddyn 6, 7 a 8 ysgolion Wrecsam i fynychu clyweliad er mwyn dewis y sgwad derfynol. Bydd yr ymarferion yn cael eu harwain gan Meinir Siencyn, Angharad Harrop a Hannah Rowlands.
Mae cyfranogi fel aelod o’r Ddawns Flodau a Chynnyrch y Meysydd yn gyfle mewn oes gyda’r penllanw yn seremonïau’r Coroni a’r Cadeirio yn yr Eisteddfod gyda chyflwyniad o’r ddawns ar lwyfan y pafiliwn a fydd hefyd yn cael ei ddarlledu’n fyw ar deledu.
Gofynnir i’r plant llwyddiannus fynychu ymarferion wythnosol fydd yn rhedeg o 3 Mawrth tan y Cyhoeddi, ac yna yn ystod y cyfnod rhwng tua Ebrill/Mai a’r Eisteddfod yn 2025
Os oes gan eich plentyn/plant ddiddordeb, dewch draw i’r clyweliad agored yn Ysgol Plas Coch, Wrecsam ddydd Sul 25 Chwefror am 10:30. Gofynnir i chi gofrestru eich plentyn wrth gyrraedd, neu er mwyn hwyluso’r trefniadau, gellir mynegi diddordeb drwy e-bostio martha@eisteddfod.cymru ymlaen llaw.