Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Erlyn adeiladwr lleol am adael preswylydd heb ystafell ymolchi
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Erlyn adeiladwr lleol am adael preswylydd heb ystafell ymolchi
Y cyngorPobl a lle

Erlyn adeiladwr lleol am adael preswylydd heb ystafell ymolchi

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 14, 2024 1:03 pm
Rhannu
Darllen 7 funud
RHANNU
Plediodd Steven Hughes o 1 Manley Court, Manley Road, Wrecsam LL13 8HE yn euog o ddau drosedd o dan y gyfraith Safonau Masnach yn Llys Ynadon Wrecsam yn ddiweddar. Fe’i gorchmynnwyd i dalu iawndal o £10,000 i’w gwsmer a chafodd hefyd ddirwy a’i orchymyn i dalu costau’r erlyniad o £2117. Cafodd Hughes y gwaith yn wreiddiol ar ôl ymateb i gais ar Facebook am rywun i drwsio landeri. Cododd yr achos ar ôl i ddeiliad y tŷ gwyno nad oedd gwaith a oedd wedi’i gytuno a’i dalu amdano wedi cael ei wneud, neu wedi cael ei wneud i safon mor wael fel ei fod yn ddiwerth. Gwnaed y gŵyn yn dilyn misoedd o oedi ar ôl i ddeiliad y tŷ gysylltu â Hughes yn gyntaf i wneud mân waith trwsio i’r landeri. Wrth drwsio’r landeri edrychodd Hughes ar simneiau’r tŷ a dywedodd wrth y deiliad fod problem ddifrifol gyda’r simneiau a’u bod mewn perygl o ddymchwel. Cytunodd deiliaid y tŷ i dalu am y gwaith i wneud y simneiau’n saff a chytunodd hefyd i Hughes gymryd y gwaith o ailwampio ei hystafell ymolchi drosodd gan y contractwr gwreiddiol ar ôl i Hughes ddweud wrthi nad oedd y contractwr hwnnw’n ffit i wneud y gwaith. Talwyd cyfanswm o £4800 i Hughes dros y cyfnod hwn ond rhoddodd Hughes y gorau i wneud gwaith ar yr eiddo ac ni chafodd yr ystafell ymolchi byth ei gorffen. Daeth adroddiad syrfëwr annibynnol a gomisiynwyd fel rhan o’r ymchwiliad i’r casgliad:
      • Bod y gwaith allanol o safon wael dros ben ac y codwyd gormod amdano
      • Bod angen gwaith adferol i’r landeri, y peipiau dŵr a’r simneiau.
      • Nid oedd y gwaith yn yr ystafell ymolchi wedi’i gwblhau ac roedd yr hyn oedd wedi’i wneud o safon wael dros ben.
      • Bydd yn rhaid ail-ddechrau’r gwaith ar yr ystafell ymolchi gan sicrhau ei fod yn cael ei wneud yn y drefn gywir.
      • Mae’r rhan fwyaf o’r arian a dalwyd hyd yma wedi’i wastraffu gan y bydd yn rhaid ail-wneud llawer iawn o’r gwaith am gost ychwanegol.
      • Nid oedd y contractwr wedi ymgymryd â’r prosiect yn y modd y byddai disgwyl i gontractwr medrus ei wneud.
      Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd: “Mae ffeithiau’r achos hwn yn peri pryder. Mae aelod diamddiffyn o’n cymuned wedi dioddef misoedd o straen ac aflonyddwch yn ei chartref ei hun. Mae hi wedi talu llawer gormod ac wedi’i gadael heb gyfleusterau sylfaenol gan fasnachwr nad oedd yn barod, ac o o bosibl yn analluog i wneud y gwaith yr oedd wedi ymrwymo i’w wneud. Mae’n galonogol gweld bod y llys wedi cymryd y mater hwn o ddifri ac wedi defnyddio ei rym i ddyfarnu’r iawndal hwn i’r dioddefwr, a fydd yn eu galluogi i dalu masnachwr cymwys a dibynadwy i orffen y waith i safon foddhaol. Rwy’n gobeithio y bydd yr achos hwn yn gwneud i unrhyw un sydd â’u bryd ar dwyllo a manteisio ar bob ddiamddiffyn feddwl ddwywaith.” Dywedodd Roger Mapelson, Swyddog Arweiniol  Safonau Masnach a Thrwyddedu Cyngor Wrecsam: ”Rwy’n erfyn ar unrhyw un sy’n ystyried cael gwaith wedi’i wneud yn eu heiddo i feddwl yn ofalus dros ben cyn ceisio argymhellion yn y cyfryngau cymdeithasol. Yn ogystal â chael rhai argymhellion dilys rydych hefyd yn debygol o gael eich targedu gan ffug fasnachwyr a fydd yn cymryd eich arian am waith sâl, neu efallai dim gwaith o gwbl. Os ydych yn meddwl am gael gwaith wedi’i wneud ar eich eiddo….
      • Gofynnwch i’ch ffrindiau, perthnasau a phobl yr ydych yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt am argymhellion
      • Peidiwch â gadael i neb roi pwysau arnoch i wneud penderfyniad a pheidiwch â delio â phobl sy’n galw wrth y drws yn cynnig gwneud gwaith.
      • Gofalwch bod cyfeiriad llawn a manylion cyswllt y masnachwr gennych.
      • Gofynnwch am brawf o unrhyw gymwysterau ac aelodaeth sydd ganddynt a chynlluniau adeiladwyr y maent yn rhan ohonynt a chofiwch eu gwirio i sicrhau eu bod yn gywir.
      • Sicrhewch fod ganddynt yswiriant.
      • Gofynnwch am gysylltiadau a chyfeiriadau eiddo lle maen nhw wedi gwneud gwaith tebyg fel y gallwch gysylltu â’r unigolion i ddilysu’r hyn y mae’r masnachwyr wedi’i ddweud a safon eu gwaith.
      • Gallwch wirio eu cyfrifon yn Nhŷ’r Cwmnïau os ydynt yn gwmni cyfyngedig.
      • Gofynnwch am ddyfynbris ysgrifenedig a chontract, a ddylai gynnwys manylion eich hawl i ganslo o fewn 14 diwrnod.
      • Peidiwch byth â thalu am y gwaith i gyd ymlaen llaw.
      • Peidiwch â hysbysebu’n uniongyrchol am adeiladwyr na masnachwyr yn y cyfryngau cymdeithasol a byddwch yn wyliadwrus o unrhyw rai sy’n ymateb yn uniongyrchol i gais am argymhellion.
      • Os yw’r masnachwr yn gallu dechrau gwneud y gwaith ar unwaith, byddwch yn wyliadwrus
      Os oes gennych bryderon am fasnachwr sy’n gwneud, neu sydd wedi gwneud gwaith i chi, gallwch ofyn i Wasanaeth Cwsmeriaid Gyngor ar Bopeth am gyngor ar 0808 223 1144(0808 223 1133 llinell Saesneg) neu fynd i Cysylltu â’r llinell gymorth defnyddwyr – Cyngor ar Bopeth 
Mae Castanwydden Bêr Wrecsam wedi cyrraedd cystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn. Ewch i fwrw eich pleidlais yn awr i sicrhau ei bod yn cael cydnabyddiaeth eang y mae’n ei haeddu
Erlyn adeiladwr lleol am adael preswylydd heb ystafell ymolchi
Erlyn adeiladwr lleol am adael preswylydd heb ystafell ymolchi
Erlyn adeiladwr lleol am adael preswylydd heb ystafell ymolchi
Erlyn adeiladwr lleol am adael preswylydd heb ystafell ymolchi
Local builder
Rhannu
Erthygl flaenorol Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Wrecsam 2025-Cyfle i fod yn rhan o’r Ddawns Flodau a Chynnyrch y Meysydd Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Wrecsam 2025-Cyfle i fod yn rhan o’r Ddawns Flodau a Chynnyrch y Meysydd
Erthygl nesaf Waterworld Mae’r ymgynghoriad ffioedd meysydd parcio ar agor – cyfle i gael dweud eich dweud!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lle Y cyngor
Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Pobl a lle

Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Medi 1, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English