Hoffem atgoffa ein trigolion bod llyfrgelloedd yn Wrecsam yn parhau i gynnal sesiynau galw heibio sy’n cynnig cymorth costau byw, gydag amryw o sefydliadau wrth law i gynnig cyngor am arbed ynni a gostwng eich biliau.
Mae llyfrgelloedd yn Wrecsam wedi bod yn cynnal y sesiynau hyn ers dechrau mis Hydref, ond mae yna ddigon o ddyddiadau’n dal i ddod, sef:
- Dydd Gwener, 16 Rhagfyr 2022 – Llyfrgell Rhos, 11am – 3pm
- Dydd Gwener, 6 Ionawr 2023 – Llyfrgell Gwersyllt, 2pm – 5pm
- Dydd Gwener, 20 Ionawr 2023 – Llyfrgell Rhiwabon, 2pm – 5pm
- Dydd Gwener, 3 Chwefror 2023 – Llyfrgell Llai, 2pm – 5pm
- Dydd Gwener, 17 Chwefror 2023 – Llyfrgell Wrecsam, 10am – 2pm
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Cadeirydd y Grŵp Costau Byw Trawsbleidiol: “Does dim angen i chi wneud apwyntiad, dim ond galw heibio yn ystod yr amseroedd penodol ar y dyddiau hyn i gael sgwrs wyneb yn wyneb â’r gwahanol sefydliadau, all roi cyngor i chi. Gall gwneud yn siŵr eich bod yn hawlio popeth sy’n ddyledus i chi wneud gwahaniaeth mawr, felly mae hwn yn gyfle da i gasglu gwybodaeth a allai eich helpu i ostwng eich biliau dros y gaeaf.”
Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.
Lleoedd Cynnes Wrecsam
Gyda’r argyfwng costau byw yn achosi poen meddwl mawr i lawer o drigolion o ran gwresogi eu cartrefi yn ystod y misoedd oerach, rydym ni wedi dechrau sefydlu ‘lleoedd cynnes’ cymunedol yn Wrecsam – lleoedd sydd eisoes wedi’u gwresogi sy’n estyn croeso i bobl ddod i mewn i gadw’n gynnes.
Rydym ni’n dechrau gyda’n llyfrgelloedd ein hunain, lle mae modd i unrhyw un ddod i mewn i gadw’n gynnes a chyfforddus.
Mae’r cyngor yn dymuno darparu rhwydwaith o leoedd cynnes i gefnogi unrhyw un sy’n ei chael yn anodd gyda chostau byw. Rydym yn awyddus i weithio gydag unrhyw grŵp neu sefydliad cymunedol a fyddai’n gallu darparu lleoedd cynnes yn eu cymuned.
Os ydych yn grŵp neu’n sefydliad sy’n gallu darparu lle cynnes e-bostiwch warmplaces@wrexham.gov.uk
Yn eich e-bost, dylech gynnwys y wybodaeth ganlynol:
- Enw’r sefydliad
- Cyfeiriad
- E-bost
- Rhif ffôn/symudol
- Unigolyn cyswllt
(Sylwer y disgwylir i’r cynnig sylfaenol o le cynnes fod AM DDIM i bawb).
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Lleoedd Cynnes Wrecsam.
Gallwch ddod o hyd i leoedd cynnes eraill yn eich cymuned ar wefan warm welcome.
Neu os oes gan eich sefydliad le cynnes, rydym yn argymell eich bod yn cofrestru ar wefan warm welcome i’w gwneud yn haws i bobl ddod o hyd i chi.
Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Gostau Byw – Canolfannau Clyd a mentrau eraill
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI