Mae Safonau Masnach Wrecsam wedi clywed gan bobl sydd wedi derbyn negeseuon e-bost, sy’n edrych yn rhai swyddogol, yn cynnig ad-daliad treth i fusnesau oherwydd Covid-19.
Sgam ydi hwn!
Sgam ydi hwn… peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolen yn yr e-bost.
Mae’r ad-daliad sy’n cael ei gynnig yn filoedd o bunnau! Mae’r neges e-bost yn honni: “Due to on-going Coronavirus (COVID-19) guidance and support for businesses, we’ve determined that you are eligible to receive a tax refund credit of 12368.72 GBP.”
Rydych chi wedyn yn cael eich annog i glicio ar ddolen i fewngofnodi i wasanaethau ar-lein Cyllid a Thollau EM i nodi manylion eich cyfrif banc a’ch ID defnyddiwr a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth. Peidiwch â chlicio ar y ddolen – dyma ymgais i geisio dwyn eich gwybodaeth bersonol.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
“Mae yna bryder go iawn y bydd rhai pobl yn credu ei bod yn neges go iawn”
Meddai’r Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl, Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae sgamiau gostyngiad yn y dreth yn gyfarwydd iawn, ond y tro hwn mae’r neges e-bost yn ceisio manteisio ar y gefnogaeth sy’n cael ei chynnig mewn ymateb i’r pandemig parhaus. Gan fod rhai pobl wedi gwneud cais am ostyngiad yn y dreth oherwydd eu bod yn gweithio gartref, mae yna bryder go iawn y bydd rhai yn credu ei bod yn neges go iawn.
“Dydi’r cyngor ddim wedi newid – cyn gwneud unrhyw beth arall, ystyriwch ai sgam ydi hwn. Os ydych chi’n ansicr, cysylltwch â’r cwmni’n uniongyrchol. Bydd hyn yn eich helpu i gadw’n ddiogel.”
Cadwch yn ddiogel
Gwyddwn fod unrhyw beth sy’n dweud wrthych chi eich bod chi wedi talu gormod o dreth yn edrych yn ddeniadol iawn, ac mae temtasiwn i ddilyn y negeseuon hyn. Fodd bynnag, wrth wneud hynny fe allwch chi adael i rywun arall ddwyn eich gwybodaeth.
Cofiwch, os ydi rhywbeth yn swnio’n rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod.
Sut i ddelio â negeseuon e-bost amheus
Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Cenedlaethol (NCSC) wedi creu gwasanaeth pwrpasol i bobl adrodd am negeseuon e-bost amheus, sy’n ei gwneud yn hawdd i bobl anfon negeseuon e-bost amheus atyn nhw.
Bydd yr NCSC wedyn yn dadansoddi’r e-bost ac unrhyw wefan sy’n gysylltiedig â’r neges.
Gallwch ddod o hyd i’r manylion yma…
Rhoi gwybod am drosedd seiber
Os ydych chi’n credu eich bod chi wedi dioddef twyll neu drosedd seiber, rhowch wybod i Action Fraud drwy eu gwefan neu drwy ffonio 0300 123 2040.
Action Fraud ydi Canolfan Genedlaethol Adrodd am Sgamiau a Throseddau Seiber y DU.
Cyngor cyffredinol ar sgamiau
Fe allwch chi dderbyn cyngor gan Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth. Gellir cysylltu â nhw ar 0808 223 1144 (Cymraeg) neu 0808 223 1133 (Saesneg).
Arhoswch yn ddiogel a byddwch yn wyliadwrus o sgamiau.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG