Neges gan Heddlu Gogledd Cymru
Yma yn Heddlu Gogledd Cymru rydym ni’n gweld mwy a mwy o sgamiau negeseuon testun a WhatsApp sy’n targedu rhieni hŷn gyda phlant sy’n oedolion.
Mae’r negeseuon yn ymddangos fel pe baent wedi’u hanfon gan eu plentyn, sydd angen arian ar frys am resymau amrywiol – i dalu dyled neu fil er enghraifft. Fe wneir i’r rhiant feddwl bod gan ei blentyn rif ffôn symudol newydd ac mewn rhai achosion mae’r sgamiwr yn sgwrsio dros destun am gryn amser cyn gofyn am arian – sy’n gwneud i’r negeseuon edrych yn rhai go iawn.
Mae mwy a mwy o drigolion yn colli arian oherwydd y sgam yma, gan gredu eu bod yn helpu eu plant.
Os ydych chi’n derbyn UNRHYW neges annisgwyl yn gofyn am arian neu dalebau, cofiwch wirio i wneud yn siŵr bod y neges yn un go iawn.
Os oes gennych chi rieni oedrannus, cofiwch sôn wrthyn nhw am y sgam yma i wneud yn siŵr nad ydyn nhw’n cael eu twyllo.
Rhannwch y neges yma gyda’ch ffrindiau, eich teulu a’ch cymdogion.
https://www.northwales.police.uk/cy-GB/
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL