Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Y wybodaeth ddiweddaraf am Kronospan
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Y wybodaeth ddiweddaraf am Kronospan
ArallPobl a lle

Y wybodaeth ddiweddaraf am Kronospan

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 8, 2021 11:02 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Gwybodaeth
RHANNU

Mae uwch gynrychiolwyr o Kronospan, Cyngor Tref y Waun, undeb Unite, Cyngor Wrecsam a Chyfoeth Naturiol Cymru – yn ogystal â’r AS lleol Simon Baynes a’r AC Ken Skates, yn parhau i gydweithio i gynyddu hyder y cyhoedd a chyfathrebu yn ymwneud â gwaith Kronospan. Fe fu’r grŵp yn cyfarfod fis Mehefin eleni ac eto ar 1 Hydref yn dilyn y cyfarfod cychwynnol a gynhaliwyd yn Ionawr 2020.

Mae’r cyfarfodydd wedi profi’n effeithiol iawn gyda’r holl bartïon yn dymuno rhoi’r diweddaraf i ddinasyddion am y cynnydd sydd wedi ei wneud hyd yma;

Mae hyn yn cynnwys:

  • Gosod monitor ansawdd aer parhaol yn Y Waun gyda chanlyniadau amser real ar gael i’r cyhoedd eu gweld drwy’r wefan isod Ansawdd Aer Cymru. Mae ail fonitor ansawdd aer i’w osod erbyn diwedd mis Tachwedd i’r gogledd o dref Y Waun.
  • Mae Kronospan wedi datblygu gwefan wybodaeth gyhoeddus ar gyfer y gymuned; www.chirk-kronospan.info. Yn ddiweddar fe gynhaliodd y wefan yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer datblygiad arfaethedig ar y safle ac mae Kronospan wedi ymrwymo i ddatblygu’r wefan sydd yng ngolwg y cyhoedd ymhellach.
  • Mae Grŵp Cydgysylltu Kronospan newydd wedi ei ffurfio i gynnwys Kronospan, cynrychiolwyr o Gyngor Tref y Waun, Cyngor Wrecsam, Cyfoeth Naturiol Cymru a chynrychiolwyr Undeb Llafur i sicrhau a chynnal cyfathrebu a deialog rhwng yr holl bartïon yng nghymuned y Waun.
  • Mae Kronospan wedi sefydlu gweithgor i adolygu rheolaethau arogl presennol ar y safle i sicrhau fod y safle yn gweithredu i’r safonau amgylcheddol uchaf posibl.
  • Fe fydd gwaith plannu coed a wnaed i’r gogledd o’r safle yn cael ei adolygu gan Kronospan gydag ymarfer ymgynghori i’w gynnal gyda phreswylwyr lleol i sicrhau fod yr holl bartïon yn fodlon.
  • Mae Cyfoeth Naturiol Cymru mewn ymgynghoriad gyda Chyngor Wrecsam wedi egluro’r rolau rheolaethol a’r cyfrifoldebau ar gyfer safle Kronospan, gan gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ar y cais presennol am drwydded amgylcheddol (Cyfoeth Naturiol Cymru / Cyfuno ac adolygu trwydded amgylcheddol ar gyfer ffatri Byrddau Gronynnau’r ‘Kronospan’ Waun (naturalresources.wales)
  • Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwriadu cwblhau’r asesiad presennol ac adrodd eu canfyddiadau i’r grŵp erbyn dechrau mis Tachwedd. Y bwriad yw cynnal ymarfer ymgynghori cyhoeddus ym Mawrth/Ebrill 2022.
  • Mae ymchwiliad Cyngor Wrecsam i’r tân ar yr iard goed bron wedi ei gwblhau ac fe gaiff ei gynnal yn unol â pholisi gorfodi’r Cyngor a gweithdrefnau cyfreithiol ac ystyriaethau perthnasol.
  • Fe fydd yr AS a’r AC yn parhau i weithio yn drawsbleidiol ar y materion.

Mae’r grŵp wedi cytuno i barhau i gydweithio a pharhau i ganolbwyntio ar sicrhau fod pawb yn eglur ynglŷn â’r ffordd orau o fynd i’r afael â materion allweddol o bryder yng nghymuned Y Waun.

Rhannu
Erthygl flaenorol Scam text and WhatsApp messages targeting elderly parents Rhybudd – Sgam negeseuon testun a WhatsApp sy’n targedu rhieni hŷn
Erthygl nesaf Op Blue Instinct Ymgyrch yr Heddlu i atal byrgleriaethau a gwneud Wrecsam yn ddiogel

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English