Yn 2019 cafwyd datganiad o argyfwng hinsawdd ac ecolegol gan Gyngor Wrecsam, ac rydym wedi datblygu cynllun i arwain ein gweithredoedd i leihau allyriadau carbon.
Rydym yn awyddus i bobl sy’n byw a gweithio yn Wrecsam fod yn rhan o’r siwrnai honno, ac felly mae’n bleser gennym wahodd pawb i sgwrs gyntaf Sgyrsiau Carbon a Hinsawdd Wrecsam ar 2 Awst 2023, 4.30-5.30pm (mae’r holl fanylion isod).
Beth yw Sgwrs Carbon a Hinsawdd?
Mae’r Sgwrs Carbon a Hinsawdd yn fan lle gall pawb:
- Gymryd rhan mewn trafodaethau agored ynglŷn â newid hinsawdd ac archwilio datrysiadau posibl gyda’i gilydd.
- Cynyddu ymwybyddiaeth ynglŷn â’r effeithiau posibl ar ein cymunedau lleol.
- Gweithio a gweithredu ar y cyd i greu newid.
- Cyfarfod mewn amgylchedd cefnogol ar gyfer dysgu, rhannu a chynyddu gallu mewn perthynas â phynciau yn ymwneud â newid hinsawdd.
- Dadlau dros weithredoedd positif ledled Wrecsam.
- Cael rhwydd hynt i rannu syniadau neu ddysgu gan eraill.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a Chefnogwr yr Hinsawdd: “Nid problem at y dyfodol yw newid hinsawdd, mae hi’n broblem argyfyngus sydd angen sylw rŵan. Gyda hyn mewn golwg, ceisiwch ymuno â’r Sgyrsiau Carbon a Hinsawdd, ac annog ffrindiau, perthnasau a chydweithwyr i ddweud eu dweud hefyd. Rydym bob amser wedi pwysleisio y bydd mynd i’r afael â’r broblem yn golygu gweithio fel tîm, ac rydym eisiau dod â chymaint ag sy’n bosibl o bobl sy’n byw neu’n gweithio yn Wrecsam, ac sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth, at ei gilydd.”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Mae’r fan lle mae croeso i safbwyntiau a syniadau pawb, ac yn rhywle i rannu gwybodaeth, syniadau arloesol ac arferion gorau o ran sut i leihau ein hallyriadau carbon ac effeithiau newid hinsawdd. Mae’r sgyrsiau’n agored i bawb, a bydd pawb yn dangos parch tuag safbwyntiau pobl eraill. Dewch â meddwl agored a diddordeb brwd mewn gweithio ar y cyd i fynd i’r afael â newid hinsawdd.”
Am beth mae’r sgyrsiau?
I’n harwain ni, rydym yn gofyn i bobl awgrymu thema wahanol bob tro, ond ar gyfer y cyfarfod cyntaf byddem yn hoffi canolbwyntio ar deithio a chludiant lleol. Felly paratowch eich syniadau, safbwyntiau ac awgrymiadau ynglŷn â sut allwn leihau’r allyriadau carbon a grëwn wrth deithio o gwmpas ar siwrneiau pob dydd, lleol, byrrach.
Pryd ac ym mhle mae’r sgyrsiau?
Cynhelir y sgyrsiau dros y we bob 3 mis ar ddydd Mercher cyntaf y mis, gan ddechrau ar 2 Awst 2023 am 4.30-5.30pm – fodd bynnag, gellwch ymuno unrhyw bryd yn ystod yr awr honno.
Ymunwch â ni i rannu eich syniadau, datblygu cysylltiadau ystyrlon, a gweithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer ein cymunedau. I gymryd rhan, e-bostiwch decarbonisation@wrexham.gov.uk neu ffoniwch 01978 729616, a byddwn yn anfon dolen i’r cyfarfod i chi a’ch ychwanegu at y rhestr bostio.
Os na ellwch fod yn bresennol, gadewch i ni wybod a byddwn yn sicrhau eich bod yn cael nodiadau’r cyfarfod a bod eich sylwadau’n cael eu cynnwys.
Byddwch yn rhan o’r newid cadarnhaol y gallwn ei greu gyda’n gilydd!
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.