Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rydym yn aros yn eiddgar am ganlyniadau Cymru yn ei Blodau 2023
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Rydym yn aros yn eiddgar am ganlyniadau Cymru yn ei Blodau 2023
Y cyngorBusnes ac addysg

Rydym yn aros yn eiddgar am ganlyniadau Cymru yn ei Blodau 2023

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 18, 2023 2:06 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Wales in Bloom
RHANNU

Wel mae’r gwaith caled wedi ei wneud ac mae’r beirniaid wedi ymweld â Wrecsam i feirniadu ein cais ar gyfer Cymru yn ei Blodau.

Mae canol y ddinas yn llawn lliw sy’n cyd-fynd â’r coed a’r llwyni presennol y mae ymwelwyr yn gyfarwydd â hwy.

Ychwanegiad arbennig eleni yw’r beiciau lliwgar sydd wedi eu troi’n gynwysyddion planhigion fel rhan o’r arddangosfeydd ac i groesawu Taith Prydain pan ddaw i Wrecsam ym mis Medi.

Hefyd mae yna lwybr coed newydd yng nghanol y Ddinasy gallwch ei ddilyn ac mae arwyddion peillio newydd wedi eu gosod yn y gwelyau i egluro’r fioamrywiaeth a’r rhesymau cynaliadwy pam fod rhai planhigion penodol wedi eu dewis.

Dechreuodd y beirniaid eu taith yn Holt lle mae preswylwyr wedi gwneud ymdrech wych i greu argraff ar y beirniaid, ac yna aethant i’r Ystâd Ddiwydiannol i weld y gwaith gwych mae CSFf wedi ei wneud o amgylch eu safle gwastraff gan greu pyllau, cychod gwenyn, gosod paneli solar a hyd yn oed darganfod math o degeirian prin. Oddi yno fe aethant ymlaen i Ysgol Uwchradd Rhosnesni lle gwelsant eu Gardd Synhwyraidd a rhandir sydd newydd ei greu cyn gorffen yng nghanol y ddinas.

“Gwych i fod yn ôl yng nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd, “Mae’n wych i fod yn ôl yn y gystadleuaeth hon a phob man rwy’n edrych mae yna fôr o liwiau a dail. Mae staff yr amgylchedd, busnesau, preswylwyr a gwirfoddolwyr wedi gweithio’n eithriadol o galed i sicrhau nad oedd y beirniaid yn cael eu siomi ac rydym yn obeithiol o ganlyniad cadarnhaol iawn pan fydd y beirniaid yn rhyddhau eu canfyddiadau.

“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb fu’n ymwneud â dod â’r sioe flodau hon i Wrecsam sy’n hybu’r arddangosfeydd hynny sydd eisoes yn fywiog ac yn rhai rydym yn falch o’u cael ym mhob cwr o’r fwrdeistref sirol.”

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio, “Ar hyd a lled canol y ddinas mae’r gwelyau blodau a’r cynwysyddion planhigion wedi eu hail ddylunio i gynnig cymysgedd hyfryd o blanhigion hafaidd yn ogystal ag ystod o beillwyr parhaol sy’n hoff o bryfetach a fydd yn cyd-fynd â’r ystod bresennol o lwyni a choed.

“Mae’r beiciau sydd wedi eu paentio gan blant lleol yn ychwanegiad hwyliog a groesawir i ganol y ddinas i nodi’r ffaith fod Wrecsam yn cynnal digwyddiad Taith Prydain ar 4 Medi.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ymwneud â dod â’r arddangosfa wych hon i’n strydoedd.”

Rhaid rhoi diolch arbennig hefyd i Gasglwyr Sbwriel Wrecsam gan fod eu gwaith gwych yn casglu sbwriel cyn i’r beirniaid gyrraedd wedi sicrhau fod y llwybr a’r ardaloedd eraill y maent yn gofalu amdanynt drwy gydol y flwyddyn yn ymddangos fel pe baent yn derbyn llawer o ofal.

Yn 2013 oedd y tro diwethaf i Wrecsam ymgeisio yn y gystadleuaeth.

Wales in Bloom
Wales in Bloom
Wales in Bloom
Wales in Bloom
Wales in Bloom

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen: Rydym yn paratoi ar gyfer Cymru yn ei Blodau

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol OPCC Summer Soccer Fund Graphic Y CHTh a Chymdeithas Bêl Droed Cymru yn dechrau haf o chwaraeon yng Ngogledd Cymru
Erthygl nesaf Climate Conversations Wrexham Sgyrsiau Carbon a Hinsawdd Wrecsam – dweud eich dweud!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Busnes ac addysg

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…

Hydref 9, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English