Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynlluniau i ddiwygio Treth y Cyngor, 20 mlynedd ers iddo gael ei ddiwygio ddiwethaf, ac maent eisiau gwybod beth yw’ch barn chi.
Mae Treth y Cyngor yn helpu i ariannu’r gwasanaethau hanfodol o ddydd i ddydd rydym ni gyd yn dibynnu arnynt sy’n cael eu darparu gan Gynghorau lleol, yn cynnwys ysgolion, llyfrgelloedd lleol, gofal cymdeithasol a glanhau strydoedd, ac mae’n talu am tua un pumed o wariant gan Gynghorau.
Mae’r system bresennol yn 20 oed ac mae’n cyfrannu at anghydraddoldeb cyfoeth. Gall y cartrefi yn y bandiau treth uchaf fod gwerth mwy na naw gwaith gwerth cartrefi yn y bandiau gwaelod, ond eto dim ond tair gwaith a hanner yn fwy o Dreth y Cyngor maent yn ei dalu.
Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi lansio ymgynghoriad yn gofyn i breswylwyr beth yw eu barn nhw am ddulliau gwahanol posibl sydd wedi’u dylunio i wneud treth yn decach, yn cynnwys ychwanegu bandiau Treth y Cyngor newydd, newid cyfraddau treth a godir ar bob band, ac adolygu disgowntiau neu ostyngiadau.
Mae’r ymgynghoriad hefyd yn gofyn am gyflymder y newid yr hoffai pobl ei weld. Y dyddiad cynharaf y bydd unrhyw newidiadau’n cael eu cyflwyno fydd 1 Ebrill 2025. Serch hynny, fe allai newidiadau gael eu gohirio tan dymor nesaf y Senedd, neu eu cyflwyno’n raddol.
Ar yr un pryd â’r gwaith yma, mae’r Asiantaeth Swyddfa Brisio yn paratoi i gynnal ailwerthusiad arfaethedig o 1.5 miliwn o gartrefi yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod gwerthusiadau yn rhai diweddar a’u bod yn cyd-fynd â’r gwerthoedd eiddo presennol.
Mae cynigion yn cynnwys cwblhau ailwerthusiad o’r 1.5 miliwn eiddo sydd yng Nghymru er mwyn sicrhau bod gwerthusiadau yn rhai diweddar a bod pobl yn talu’r swm priodol. Fe fyddai hyn yn golygu bod modd creu bandiau gwahanol gyda chyfraddau treth newydd yn cael eu dewis ar gyfer pob band.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Aelod Arweiniol Cyllid Cyngor Wrecsam: “Rwy’n annog cymaint o breswylwyr â phosibl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad Treth y Cyngor yma er mwyn i Lywodraeth Cymru gael syniad clir o’r hyn mae pobl Wrecsam ei eisiau. Mae hyn yn fater pwysig iawn sydd yn effeithio ar bob aelwyd yn Wrecsam, felly rwy’n eich annog i beidio â cholli’r cyfle i sicrhau bod eich barn yn cael eu hystyried.”
Gallwch lenwi Ymgynghoriad Treth Gyngor Decach ar wefan Llywodraeth Cymru.