Dyfarnwyd £2.8 miliwn i Gyngor Wrecsam er mwyn gwneud gwaith atgyweirio hanfodol ar ffordd y B5605 yng Nghefnbychan.
Cafodd y ffordd ei difrodi’n ddifrifol yn Storm Christoph y llynedd, ac mae wedi bod ar gau ers hynny.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Mae wedi bod yn sefyllfa heriol i gymunedau lleol, gyda nifer o gerbydwyr yn gorfod gyrru milltiroedd i osgoi’r ffordd.
Yn ogystal â bod yn ffordd a ddefnyddir yn ddyddiol gan y trigolion lleol, mae’r ffordd yn darparu llwybr dargyfeirio pan fo ffordd osgoi yr A483 ar gau.
Fodd bynnag, yn dilyn arolygon geo-dechnegol cymhleth a dadansoddiad cost, cyflwynodd y cyngor achos busnes i Lywodraeth Cymru yn ddiweddar i gael help i ariannu’r gwaith atgyweirio.
Cadarnhawyd bellach fod Gweinidogion wedi cymeradwyo’r achos busnes, sy’n golygu y gellir cychwyn ar y gwaith yn ddiweddarach eleni.
Llwybr hanfodol i bobl leol
Dywedodd llefarydd o Gyngor Wrecsam: “Bydd atgyweirio’r ffordd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i drigolion Cefnbychan, Cefn Mawr a Rhosymedre – yn ogystal â chymunedau cyfagos fel Plas Madoc, Rhiwabon a’r Waun.
“Nid yw’n waith atgyweirio syml – mae’r difrod yn sylweddol ac rydym wedi gorfod cynnal llawer o asesiadau geo-dechnegol manwl a dadansoddiad cost.
“Ond rydym yn hynod falch ein bod wedi gallu sicrhau’r cyllid hwn, ac rydym yn edrych ymlaen at ailagor y darn allweddol hwn o seilwaith.”
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH