Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sioe Gŵn Llawn Hwyl ym Mharc Acton
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Efallai mai gweithio i ni yw eich cam nesaf! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Efallai mai gweithio i ni yw eich cam nesaf! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg
Dementia
Gweithdai cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia – cadwch eich lle!
Digwyddiadau
Voices make change
11-25 oed? Lleisiau’n Creu Newid
Pobl a lle
Road
Helpwch i gadw ffyrdd yn fwy diogel – dywedwch eich dweud!
Pobl a lle
Rhesymau dros ymuno ag ymgyrch "Fix It Feb" Caffi Trwsio Cymru
Rhesymau dros ymuno ag ymgyrch “Fix It Feb” Caffi Trwsio Cymru
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Sioe Gŵn Llawn Hwyl ym Mharc Acton
Y cyngorArall

Sioe Gŵn Llawn Hwyl ym Mharc Acton

Diweddarwyd diwethaf: 2024/02/07 at 2:39 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Dog Show
RHANNU

Fe fydd Parc Acton yn cynnal ei sioe gŵn gyntaf erioed gyda gwobrau, stondinau, crefftau, arddangosfeydd a mwy, ddydd Sul 11 Chwefror, rhwng 11.30am a 4pm. Er mwyn dathlu’r ffaith bod y goeden gastanwydden bêr, sydd bron yn 500 oed, wedi mynd drwodd i rownd nesaf cystadleuaeth Coeden y Flwyddyn a gynhelir gan Goed Cadw, mae trigolion lleol yn cael eu hannog i ddod draw i fwynhau diwrnod i’r teulu cyfan.

11 Categori Gwahanol

  • Y ci mwyaf deniadol
  • Yr ast ddeliaf
  • Y ci achub gorau
  • Y gynffon fwyaf siglog
  • Y croesfrid gorau 
  • Yr hen gi gorau (7 mlwydd+)
  • Y clustiau mwyaf / gorau 
  • Y ci mwyaf sgryfflyd
  • Y ci a’r perchennog tebycaf i’w gilydd
  • Y ci bach deliaf (6-12 mis)
  • Y ci sy’n ôl y bêl orau

Y pris yw £1 fesul categori neu 4 categori am £3! (Arian parod yn unig).

Bydd yr elw’n mynd tuag at Almost Home Dog Rescue, elusen leol sydd wedi rhoi cartref i 1241 o gŵn hyd yn hyn!

Gellir cofrestru ar gyfer y categorïau am 11.30am a gallwch barhau i gofrestru trwy gydol y diwrnod.  Fe fydd y beirniadu’n cychwyn am 12.15pm ac fe fydd amserlen y categorïau’n cael ei hysbysebu ar y diwrnod ac yn y rhaglen. 

Mae yna rosedi a gwobrau i’w hennill, a bydd coeden yn cael ei phlannu yn y parc er anrhydedd enillydd gwobr ‘y gorau yn y sioe’. Fe fydd yn hwyl cymryd rhan neu wylio, rydym ni’n gobeithio gweld llawer o berchnogion anifeiliaid brwdfrydig neu blant iau yn arddangos eu ffrind gorau yng nghylch y sioe! Cofiwch ddarganfod pwy sy’n ennill gwobr ‘y gorau yn y sioe’ am 3.45pm!

  • Yn ogystal â gwylio llawer o gŵn hardd yng nghylch y sioe, fe fydd yna arddangosfeydd i ddiddanu’r hen a’r ifanc 
  • Ufudd-dod am 1pm, mwynhewch wylio’r cŵn ufudd yn arddangos eu gwaith traed taclus
  • Gwaith arogl am 2pm, rhyfeddwch sut y gall trwynau pwerus cŵn arogli aroglau sydd wedi’u cuddio
  • Triciau am 3pm, cewch eich diddanu gan driciau hwyliog a chael cyfle i ddysgu rhai newydd ar y diwrnod!

Ar y diwrnod fe fydd yna amrywiaeth o stondinwyr, yn cynnwys milfeddygon lleol, steilwyr cŵn, elusennau, gemau, danteithion i gŵn a ffotograffydd anifeiliaid, bydd ffotograffydd sydd wedi ennill gwobrau yn tynnu llun eich anifail, yn ogystal â faniau bwyd a lluniaeth os byddwch chi’n llwglyd.

Er mwyn sicrhau bod pawb yn cael hwyl, gofynnir bod pob ci yn cael ei gadw ar dennyn drwy’r amser, mae’n rhaid i gŵn sy’n cofrestru fod dros 6 mis oed, mae penderfyniad y beirniad yn derfynol a chofiwch mai sioe er hwyl yw hon, nid oes yna bwyntiau cystadleuaeth. 

Fe fydd yna fagiau baw cŵn am ddim ar gael ar y diwrnod felly cofiwch glirio baw eich ci.  Mae’r digwyddiad am ddim ac mae yna weithgareddau crefftau ar gael, ond cofiwch fod angen arian er mwyn cystadlu yn rhai o’r dosbarthiadau cŵn, crwydro’r stondinau a chael paned!

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi a’ch ci hyfryd ar y diwrnod a chofiwch bleidleisio dros yr hen goeden gastanwydden bêr! 

Mae rhagor o fanylion ar gael ar dudalen digwyddiadau Cyngor Cymuned Acton ar Facebook: https://fb.me/e/1JRtAEd4l

Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Cariad at Goed – Digwyddiad Dydd y Cariadon Arbennig ym Mharc Acton

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Rhannu
Erthygl flaenorol Spiderman Oes gennych chi wisgoedd gwisg ffansi nad ydych eu hangen?
Erthygl nesaf Gwersi nofio trwy gyfrwng y Gymraeg bellach ar gael yn Wrecsam Gwersi nofio trwy gyfrwng y Gymraeg bellach ar gael yn Wrecsam

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Efallai mai gweithio i ni yw eich cam nesaf! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Efallai mai gweithio i ni yw eich cam nesaf! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg Chwefror 20, 2026
Dementia
Gweithdai cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia – cadwch eich lle!
Digwyddiadau Chwefror 20, 2026
Voices make change
11-25 oed? Lleisiau’n Creu Newid
Pobl a lle Chwefror 19, 2026
Road
Helpwch i gadw ffyrdd yn fwy diogel – dywedwch eich dweud!
Pobl a lle Chwefror 16, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Darpariaeth symudol newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio ar 17 Chwefror...
Pobl a lleY cyngor

Darpariaeth symudol newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio ar 17 Chwefror…

Chwefror 11, 2026
Wrecsam
ArallFideoPobl a lle

Dadorchuddio llythrennau eiconig WRECSAM yn Sgwâr y Frenhines

Chwefror 3, 2026
Women's Health Event 2026
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad Iechyd Menywod 2026

Chwefror 3, 2026
Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Pobl a lleY cyngor

Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol

Ionawr 29, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English