Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Siôn Corn yn ymweld yn gynnar â disgyblion ffodus o Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Siôn Corn yn ymweld yn gynnar â disgyblion ffodus o Wrecsam
Busnes ac addysgArallPobl a lle

Siôn Corn yn ymweld yn gynnar â disgyblion ffodus o Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 19, 2025 10:08 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Pupils with Santa and the Castell Howell Foods Christmas truck
RHANNU

Er ei fod yn brysur iawn yr adeg hon o’r flwyddyn, cliriodd Siôn Corn le yn ei amserlen i ymweld â dwy ysgol gynradd leol. Yn ystod ei ymweliad, rhoddodd wledd Nadoligaidd i’r disgyblion ynghyd ag anrhegion Nadolig cynnar.

Cynnwys
  • Cynnyrch lleol ffres
  • Lledaenu hwyl yr ŵyl

Nid oedd wedi gallu cyflawni hyn ar ei ben ei hun, fodd bynnag. Gyda chymorth un o’i gorachod a’r tîm yn Castell Howell Foods, cafodd y dysgwyr ifanc syrpreis Nadoligaidd.

Cynnyrch lleol ffres

Nod tîm Prydau Ysgol Wrecsam yw defnyddio cynnyrch a chyflenwyr Cymreig lle bynnag y bo modd, yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a Chyngor Wrecsam.

Mae Castell Howell Foods yn gyflenwr Cymreig a brynodd a dosbarthodd yr holl dwrcïod, llysiau a bwyd traddodiadol ar gyfer y cinio Nadolig a weinwyd i ddisgyblion ledled y sir eleni.

Cafodd y wledd Nadoligaidd ei pharatoi a’i gweini gan ein cogyddion a chynorthwywyr ysgol hynod dalentog ac ymroddedig ar draws yr awdurdod.

Lledaenu hwyl yr ŵyl

Mae gan y tîm yn Castell Howell Foods linell uniongyrchol i Begwn y Gogledd. Eleni, fe wnaethon nhw ffonio Siôn Corn yn gofyn a fyddai’n hoffi ymuno â nhw i ledaenu hwyl yr ŵyl yn Wrecsam.

Gan neidio i’w lori Nadoligaidd llawn bwyd, aeth y tîm ati i gynllunio eu taith i ddwy ysgol gynradd leol i gynnal ymweliad annisgwyl.

Roedd disgyblion Ysgol Bro Alun ac Ysgol Penygelli wedi’u synnu o weld Siôn Corn ei hun yn cyrraedd eu hysgol. Cyfarchodd y dyn ei hun a’i gorachod bach y plant yn y ddwy ysgol gan roi anrheg iddynt i gyd. Cafodd pawb amser gwych.

Dywedodd Angharad Tuovinen, rheolwr contractau Castell Howell Foods “Roedd yn hyfryd iawn cwrdd â’r disgyblion yn Ysgol Bro Alun ac Ysgol Penygelli. Maen nhw’n sicr yn gwybod sut i ledaenu hwyl yr ŵyl yn eu cymuned. Roedd yn bleser darparu eu cinio Nadolig iddynt eleni a gobeithio eu bod nhw i gyd wedi ei fwynhau. Diolch yn fawr iawn i’n ffrind Siôn Corn am ein helpu i ddosbarthu’r bwyd ac am wneud amser i gwrdd â’r holl blant”.

Wrth siarad ar y newyddion am yr ymweliad Nadoligaidd diweddar, dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg “Roedd yn hyfryd clywed am ymweliad diweddar Siôn Corn â dwy o’n hysgolion cynradd gwych. Rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor brysur yw ef yr adeg hon o’r flwyddyn felly mae’n dangos pa mor dda yw ein disgyblion iddo fod wedi llwyddo i wneud amser i ddod i ymweld â nhw. Diolch yn fawr iawn i’w ffrindiau yn Castell Howell Foods am helpu i drefnu ei ymweliad ac am ddarparu’r cinio Nadolig rhagorol o ansawdd uchel i’n dysgwyr ifanc ar draws yr awdurdod”.

Rhannu
Erthygl flaenorol Chestnuts Food Waste Recycling Ychydig o bethau a all fynd yn eich cadi bwyd adeg y Nadolig
Erthygl nesaf elite tennis Twrnamaint Agored Wrecsam Lexus 2025: Yn Trawsnewid y Byd Tenis yng Ngogledd Cymru a’r DU

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 

Hydref 9, 2026
Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English