Mae’r Cyng. Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd, wedi croesawu’r newyddion bod modd i siopau eraill ailagor yn ofalus. “Dyma newyddion gwych i’n masnachwyr sydd, wrth reswm, wedi bod yn poeni am eu busnesau ers dechrau’r cyfnod clo ym mis Mawrth. Mae’n golygu bod modd iddyn nhw agor eu busnesau unwaith eto, ac rydym ni wedi bod yn cynllunio ar gyfer hyn yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf.
Dydi pandemig y coronafeirws ddim ar ben
“Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni gofio bod y mesurau yn dal ar waith ac nad oes modd i unrhyw un yn Wrecsam, na Chymru, deithio mwy na 5 milltir heb angen; felly nid ydym ni’n disgwyl niferoedd mawr yn ystod y bythefnos gyntaf. Bydd hyn yn rhoi cyfle i fasnachwyr addasu i ffordd newydd a diogel o weithio a pharatoi ar gyfer y cyfnod pan fydd y cyfyngiadau 5 milltir yn cael eu codi ym mis Gorffennaf – gobeithio. Mae’n rhaid i ni hefyd gofio nad yw pandemig y coronafeirws ar ben eto ac na fydd, o bosibl, yn dod i ben am beth amser i ddod. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid adolygu a diwygio cynlluniau yn rheolaidd i sicrhau nad yw iechyd y cyhoedd mewn perygl pan fyddan nhw’n ymweld â chanol y dref.
“Mae’r cynlluniau ar waith yn ystyried diogelwch staff a chwsmeriaid, sy’n parhau’n flaenoriaeth, ac rydym ni wedi bod yn gweithio gyda siopau i wneud yn siŵr bod modd cadw pawb yn ddiogel. Bydd canol y dref yn edrych yn wahanol ac mi fydd yna system unffordd ar waith ar Stryt y Bonc gan nad oes modd cadw pellter cymdeithasol ar stryd mor gul.
“Hoffaf ddiolch i’n masnachwyr a’n staff sydd wedi gweithio’n ddiflino i wneud yn siŵr bod canol y dref yn agor yn ddiogel ar gyfer ymwelwyr a staff fel ei gilydd.”
Mae’n rhaid cadw at fesurau Llywodraeth Cymru
Rhai o newidiadau eraill y byddwch chi’n sylwi arnyn nhw yw’r arwyddion yn atgoffa pawb bod yn rhaid cadw at fesurau coronafeirws Llywodraeth Cymru. Mi fydd yna hefyd arwyddion cadw pellter cymdeithasol a marciau ar lawr.
Bydd Wardeniaid Cadw Pellter yn patrolio’r dref ar adegau amrywiol i atgoffa ymwelwyr am fesurau’r llywodraeth.
Byddwn yn diweddaru trefniadau glanhau canol y dref yn unol â’n hasesiadau risg a’r canllawiau cenedlaethol diweddaraf, ac mae’n bosibl y bydd arferion gweithio yn newid yn y dyfodol.
Mi fydd yna hefyd fannau parcio clicio a chasglu ar y Stryd Fawr a bydd meysydd parcio’r Cyngor yng nghanol y dref yn parhau’n rhai di-dâl tan ddiwedd mis Medi.
Rydym ni rŵan wedi derbyn arwydd gan Lywodraeth Cymru y bydd rheoliadau yn cael eu cyhoeddi i gadw Cymru’n ddiogel yn y gwaith manwerthu, a fydd yn cynnwys canllawiau pellach ar fannau gwerthu dan do – sy’n golygu y byddwn ni’n gallu agor Marchnad y Cigyddion, y farchnad gyffredinol a Tŷ Pawb yn fuan.
Mae’r Cyngor hefyd yn edrych ar ailagor toiledau cyhoeddus gan gadw at yr holl ganllawiau ac, unwaith eto, gobeithiwn y bydd modd i ni wneud hyn yn fuan iawn.
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN