Mae ein Tîm Gofal Cymdeithasol yn cymryd rhan mewn ffair yrfaoedd dros y we i roi cyfle i fyfyrwyr a graddedigion sydd â diddordeb ddysgu am y cyfleoedd sydd ar gael i weithio ym maes Gofal Cymdeithasol yng Nghyngor Wrecsam.
Bydd cynrychiolwyr y cyngor, gan gynnwys Gweithwyr Cefnogi, Rheolwyr Tîm / Rheolwyr Cynorthwyol, Therapyddion Galwedigaethol, Gweithwyr Cymdeithasol a mwy wrth law i roi’r holl wybodaeth i chi am weithio yn eu proffesiwn yn y Cyngor. Byddan nhw yno i ateb unrhyw ymholiadau, ac egluro’r buddion niferus o ymuno â Thîm Wrecsam.
Cynhelir Ffair Yrfaoedd Cymru Gyfan dros y we rhwng 10am a 3pm ar ddydd Iau, 14 Hydref, a gallwch chi gofrestru i ymuno yma.
Cofrestrwch ar gyfer y ffair yrfaoedd
“Cyfarfod ein tîm”
Meddai’r Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion, “Mae hwn yn gyfle gwych i raddedigion gwrdd â’n tîm a dysgu sut beth yw gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn Wrecsam, gan y bobl sy’n ei wneud yn ddyddiol. Mae’n gyfle i chi gael teimlad o’r hyn rydym ni’n ei wneud, gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi, ac i’r tîm ddod i wybod ychydig amdanoch chi. Gobeithio mai dyma’ch cam cyntaf chi at yrfa ddisglair iawn gyda ni.”
Dywedodd y Cynghorydd Sonia Benbow Jones, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Plant: “Anogir myfyrwyr a graddedigion yn gryf i gofrestru ar gyfer y digwyddiad. Trwy weithio gyda ni, gallwch dderbyn hyfforddiant, cefnogaeth a chyfleoedd dilyniant gyrfa ragorol, y byddwch chi’n gallu dysgu mwy amdanynt ar y diwrnod. Mae’n amser gwych i feddwl am ymuno â Gwasanaethau Plant Wrecsam, felly dewch draw i ddarganfod mwy.”
Pam ddylwn i ymuno â Thîm Wrecsam?
Mae gan Gofal Cymdeithasol Cyngor Wrecsam Uwch Dîm Rheoli sy’n angerddol am ddarparu gwasanaethau i blant, pobl ifanc ac oedolion diamddiffyn ledled y sir.
Mae buddsoddi yn natblygiad ein gweithlu yn flaenoriaeth flaenllaw, gyda chyfle i chi gamu ymlaen yn eich gyrfa, goruchwyliaeth unigol a chydweithwyr tosturiol yma i’ch cefnogi.
Mae buddion gweithwyr yn cynnwys:
- Hyd at 31 diwrnod o wyliau blynyddol
- Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith gan gynnwys gweithio hyblyg
- Pensiwn Llywodraeth Leol
- Rhaglen Cymorth i Weithwyr
- Gostyngiadau a chynigion i staff
- Talebau gofal plant
- Mynediad at Undeb Credyd
Byw yn Wrecsam
I rai, bydd gyrfa gyda ni yn golygu symud o’ch tref / dinas bresennol, ond peidiwch â phoeni – mae gan Wrecsam lawer yn mynd amdani!
Mae gennym barciau gwledig anhygoel (mae un parc yn cynnwys Safle Treftadaeth y Byd – Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte), hanes cyfoethog a balch, a rhai o’r bobl fwyaf gonest a gweithgar y gallech eu cyfarfod yn unman.
Yma mae Tŷ Pawb; adnodd cymunedol diwydiannol, sy’n dod â’r celfyddydau a marchnadoedd ynghyd yn yr un lleoliad. Ni hefyd yw cartref rhai o fusnesau mwyaf llwyddiannus Prydain.
Yn ogystal, nid yn unig yr ydym wedi ein lleoli yn agos at ddinasoedd fel Caer, Lerpwl a Manceinion, rydym hefyd dafliad carreg i ffwrdd o rai o draethau hyfrytaf y DU.
Ond dyna ddigon am y tro, cofrestrwch ar gyfer y ffair yrfaoedd a gallwn ddweud mwy wrthych chi am weithio yng Nghyngor Wrecsam.
Cofrestrwch ar gyfer y ffair yrfaoedd