Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gall myfyrwyr a graddedigion gofal cymdeithasol gwrdd â’n tîm yn y ffair yrfaoedd hon dros y we!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Croeso Cynnes yn Tŷ Pawb –– Gweithgaredd Crefft Gofod Cynnes Wythnosol Am Ddim gyda Phryd Poeth!
Croeso Cynnes yn Tŷ Pawb –– Gweithgaredd Crefft Gofod Cynnes Wythnosol Am Ddim gyda Phryd Poeth!
Digwyddiadau Pobl a lle
Canmoliaeth i Ardd Gymunedol Rhos
Canmoliaeth i Ardd Gymunedol Rhos
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Green garden waste bin
Diweddariad – Llai o gasgliadau gwastraff o’r ardd dros fisoedd y gaeaf
Y cyngor
Coedwig Fechan newydd ei sefydlu, gyda ffens o’i hamgylch ym Mharc Borras
Pedair Coedwig Fechan Newydd — Yn dod â Mwy o Fyd Natur, Bywyd Gwyllt a Mannau Cymunedol i Sir Wrecsam
Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Wrexham AFC exhibition at Ty Pawb
Wrecsam yw’r Enw
Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Gall myfyrwyr a graddedigion gofal cymdeithasol gwrdd â’n tîm yn y ffair yrfaoedd hon dros y we!
Busnes ac addysg

Gall myfyrwyr a graddedigion gofal cymdeithasol gwrdd â’n tîm yn y ffair yrfaoedd hon dros y we!

Diweddarwyd diwethaf: 2021/10/12 at 11:00 AM
Rhannu
Darllen 4 funud
Social care
RHANNU

Mae ein Tîm Gofal Cymdeithasol yn cymryd rhan mewn ffair yrfaoedd dros y we i roi cyfle i fyfyrwyr a graddedigion sydd â diddordeb ddysgu am y cyfleoedd sydd ar gael i weithio ym maes Gofal Cymdeithasol yng Nghyngor Wrecsam.

Cynnwys
“Cyfarfod ein tîm”Pam ddylwn i ymuno â Thîm Wrecsam?Byw yn Wrecsam

Bydd cynrychiolwyr y cyngor, gan gynnwys Gweithwyr Cefnogi, Rheolwyr Tîm / Rheolwyr Cynorthwyol, Therapyddion Galwedigaethol, Gweithwyr Cymdeithasol a mwy wrth law i roi’r holl wybodaeth i chi am weithio yn eu proffesiwn yn y Cyngor. Byddan nhw yno i ateb unrhyw ymholiadau, ac egluro’r buddion niferus o ymuno â Thîm Wrecsam.

Cynhelir Ffair Yrfaoedd Cymru Gyfan dros y we rhwng 10am a 3pm ar ddydd Iau, 14 Hydref, a gallwch chi gofrestru i ymuno yma.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://targetjobs.co.uk/events/all-wales-virtual-careers-fair “] Cofrestrwch ar gyfer y ffair yrfaoedd [/button]

“Cyfarfod ein tîm”

Meddai’r Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion, “Mae hwn yn gyfle gwych i raddedigion gwrdd â’n tîm a dysgu sut beth yw gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn Wrecsam, gan y bobl sy’n ei wneud yn ddyddiol. Mae’n gyfle i chi gael teimlad o’r hyn rydym ni’n ei wneud, gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi, ac i’r tîm ddod i wybod ychydig amdanoch chi. Gobeithio mai dyma’ch cam cyntaf chi at yrfa ddisglair iawn gyda ni.”

Dywedodd y Cynghorydd Sonia Benbow Jones, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Plant: “Anogir myfyrwyr a graddedigion yn gryf i gofrestru ar gyfer y digwyddiad. Trwy weithio gyda ni, gallwch dderbyn hyfforddiant, cefnogaeth a chyfleoedd dilyniant gyrfa ragorol, y byddwch chi’n gallu dysgu mwy amdanynt ar y diwrnod. Mae’n amser gwych i feddwl am ymuno â Gwasanaethau Plant Wrecsam, felly dewch draw i ddarganfod mwy.”

cofrestrwch ar gyfer y ffair yrfaoedd

Pam ddylwn i ymuno â Thîm Wrecsam?

Mae gan Gofal Cymdeithasol Cyngor Wrecsam Uwch Dîm Rheoli sy’n angerddol am ddarparu gwasanaethau i blant, pobl ifanc ac oedolion diamddiffyn ledled y sir.

Mae buddsoddi yn natblygiad ein gweithlu yn flaenoriaeth flaenllaw, gyda chyfle i chi gamu ymlaen yn eich gyrfa, goruchwyliaeth unigol a chydweithwyr tosturiol yma i’ch cefnogi.

Mae buddion gweithwyr yn cynnwys:

  • Hyd at 31 diwrnod o wyliau blynyddol
  • Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith gan gynnwys gweithio hyblyg
  • Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Rhaglen Cymorth i Weithwyr
  • Gostyngiadau a chynigion i staff
  • Talebau gofal plant
  • Mynediad at Undeb Credyd

Byw yn Wrecsam

I rai, bydd gyrfa gyda ni yn golygu symud o’ch tref / dinas bresennol, ond peidiwch â phoeni – mae gan Wrecsam lawer yn mynd amdani!

Mae gennym barciau gwledig anhygoel (mae un parc yn cynnwys Safle Treftadaeth y Byd – Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte), hanes cyfoethog a balch, a rhai o’r bobl fwyaf gonest a gweithgar y gallech eu cyfarfod yn unman.

Gall myfyrwyr a graddedigion gofal cymdeithasol gwrdd â'n tîm yn y ffair yrfaoedd hon dros y we!

Yma mae Tŷ Pawb; adnodd cymunedol diwydiannol, sy’n dod â’r celfyddydau a marchnadoedd ynghyd yn yr un lleoliad. Ni hefyd yw cartref rhai o fusnesau mwyaf llwyddiannus Prydain.

ty pawb

Yn ogystal, nid yn unig yr ydym wedi ein lleoli yn agos at ddinasoedd fel Caer, Lerpwl a Manceinion, rydym hefyd dafliad carreg i ffwrdd o rai o draethau hyfrytaf y DU.

Ond dyna ddigon am y tro, cofrestrwch ar gyfer y ffair yrfaoedd a gallwn ddweud mwy wrthych chi am weithio yng Nghyngor Wrecsam.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://targetjobs.co.uk/events/all-wales-virtual-careers-fair “] Cofrestrwch ar gyfer y ffair yrfaoedd [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Hate Crime Mae hi’n Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb
Erthygl nesaf Waste Calendrau casgliadau biniau ac ailgylchu ar gael ar ein gwefan

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Croeso Cynnes yn Tŷ Pawb –– Gweithgaredd Crefft Gofod Cynnes Wythnosol Am Ddim gyda Phryd Poeth!
Croeso Cynnes yn Tŷ Pawb –– Gweithgaredd Crefft Gofod Cynnes Wythnosol Am Ddim gyda Phryd Poeth!
Digwyddiadau Pobl a lle Rhagfyr 5, 2025
Canmoliaeth i Ardd Gymunedol Rhos
Canmoliaeth i Ardd Gymunedol Rhos
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Rhagfyr 5, 2025
Green garden waste bin
Diweddariad – Llai o gasgliadau gwastraff o’r ardd dros fisoedd y gaeaf
Y cyngor Rhagfyr 5, 2025
Coedwig Fechan newydd ei sefydlu, gyda ffens o’i hamgylch ym Mharc Borras
Pedair Coedwig Fechan Newydd — Yn dod â Mwy o Fyd Natur, Bywyd Gwyllt a Mannau Cymunedol i Sir Wrecsam
Arall Datgarboneiddio Wrecsam Rhagfyr 4, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ysgol yr Hafod, Johnstown
Busnes ac addysg

Ysgol yr Hafod, Johnstown, yn dathlu arolwg cadarnhaol gan Estyn

Tachwedd 28, 2025
Student with their school bag
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Ceisiadau ar agor ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgol

Tachwedd 25, 2025
Pupils with revamped school menu
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Ailwampio bwydlen i’w gweini ar draws ysgolion cynradd

Tachwedd 19, 2025
Hyb diwydiannau creadigol wedi agor yn swyddogol yn Wrecsam
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Hyb diwydiannau creadigol wedi agor yn swyddogol yn Wrecsam

Tachwedd 14, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English