Y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd gyda chyfrifoldebau dros gludiant strategol.
“Yn dilyn y penderfyniad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet ar adolygu’r parthau 20mya.
“Croesawodd Cyngor Wrecsam y newid mewn cyfeiriad ond rydym yn aros am ganllawiau gan Lywodraeth Cymru, disgwylir y byddant ar gael ym mis Mehefin.
“Hoffwn fod yn glir na fydd pob ffordd yn newid yn ôl i 30mya. Mae Cyngor Wrecsam yn cefnogi’r terfyn cyflymder o 20mya y tu allan i ysgolion ac wedi cwblhau’r rhaglen hon cyn y newid a wnaed gan Lywodraeth Cymru, nid oes gennym unrhyw fwriad i wrthdroi’r penderfyniad hwn.
“Rydym hefyd yn ymwybodol iawn o’r costau sy’n gysylltiedig â gwneud y newidiadau angenrheidiol ac oni bai eu bod yn cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru, byddai’n rhaid i ni ystyried ein gwariant ariannol yn ofalus iawn gan nad oes cyllideb ar gael ar gyfer y gwaith yma.
“Byddwn yn gweithio gyda chymunedau ac aelodau etholedig pan fydd y canllawiau newydd yn cael eu cyhoeddi ac rydym yn croesawu adborth.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Sicrhewch eich bod yn gwaredu eich fêps yn gyfrifol