Peidiwch ag anghofio fod y digwyddiad plannu coed nesaf yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn, 18 Mawrth yn Llwyn Stockwell rhwng 10am a 3pm.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo dillad cynnes, esgidiau glaw a dewch â menyg. Mae plannu coed yn weithgaredd y gall pawb o bob oed gymryd rhan ynddo, felly dewch draw ar gyfer sesiwn llawn hwyl i’r teulu yn plannu coed ar gyfer yfory mwy gwyrdd.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda Coed Cadw a Llais y Goedwig i blannu coed ar draws y sir yr Hydref a’r Gaeaf hwn.
Mae’n rhan o ‘Fy Nghoeden, Ein Coedwig’, cynllun coeden am ddim a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a anelwyd at ddosbarthu coeden am ddim i bob aelwyd yng Nghymru. Mae’r cam hwn (Tach 2022 – Mawrth 2023) yn anelu i roi 295,000 o goed am ddim. Mae’r coed hyn yn cael eu dosbarthu o 50 canolbwynt cymunedol ar draws Cymru.
Roedd y dewis Plannwch Goeden i Mi (PAT4Me) o Fy Nghoeden, Ein Coedwig, sy’n cael ei hwyluso a’i gefnogi gan Lais y Goedwig yn galluogi aelwydydd sydd heb fynediad i’w mannau plannu coed eu hunain neu nad ydynt yn dymuno hawlio eu coeden i gael plannu coeden ar eu rhan.
Rydym ni wedi ymrwymo i amddiffyn coed a choetiroedd ledled y sir yn rhan o’r Strategaeth Coed a Choetir. Mewn partneriaeth gyda Chronfa Argyfwng Coed, Coed Cadw rydym yn anelu i gynyddu gorchudd canopi ledled y sir.
Mae’n hanfodol nawr yn fwy nag erioed i ddefnyddio ein mannau gwyrdd agored i ymateb i natur ac argyfwng hinsawdd a wynebir gennym. Bydd prosiectau plannu coed fel hyn yn datblygu cysylltedd rhwng cynefinoedd presennol, gwella gwytnwch ecosystem yn ogystal â chreu mannau croesawgar a phleserus i ymweld â nhw.
Rydym bob amser yn chwilio am ysgolion, busnesau a grwpiau cymunedol i gyfrannu at ein cynlluniau plannu coed, felly os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, gallwch gysylltu drwy woodlandpledge@wrexham.gov.uk
Gallwch chi hefyd ddangos eich cefnogaeth ar gyfer amddiffyn coed a choetiroedd yn Wrecsam trwy Addewid Coetir Wrecsam ar ein gwefan Addewid Coetir Wrecsam Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a thrwy Facebook a twitter.
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD