Mae 21 Mawrth 2022 yn foment hanesyddol i blant a’u hawliau yng Nghymru. O’r diwrnod hwn ymlaen, bydd cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru. Rydyn ni eisiau amddiffyn plant a’u hawliau, er mwyn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd iddyn nhw.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Beth yw cosb gorfforol?
Mae sawl math o gosb gorfforol. Fel smacio, taro, slapio ac ysgwyd.
Ond mae mathau eraill hefyd.
Mae’n amhosibl rhestru pob math o gosb gorfforol.
Gall fod yn unrhyw ddull o gosbi plentyn gan ddefnyddio grym corfforol.
Mae ymchwil yn awgrymu y gallai unrhyw fath o gosb gorfforol fod yn niweidiol i blant.
Beth mae’r newid yn y gyfraith yn ei olygu?
- Bydd cosbi corfforol o unrhyw fath yn anghyfreithlon yng Nghymru.
- Bydd gan blant yr un amddiffyniad rhag ymosodiad ag oedolion.
- Bydd yn gwneud y gyfraith yn gliriach – haws i blant, rhieni, gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd ei deall.
A fydd y newid yn y gyfraith yn berthnasol i bawb yng Nghymru? (From photo on page 1)
- Bydd cosbi corfforol o unrhyw fath yn anghyfreithlon yng Nghymru.
- Bydd gan blant yr un amddiffyniad rhag ymosodiad ag oedolion.
- Bydd yn gwneud y gyfraith yn gliriach – haws i blant, rhieni, gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd ei deall.
Beth sy’n digwydd os bydd pobl yn cosbi plentyn yn gorfforol o 21 Mawrth 2022?
Bydd unrhyw un sy’n cosbi plentyn yn gorfforol:
• yn torri’r gyfraith
• mewn perygl o gael ei arestio neu ei gyhuddo o ymosod
• efallai yn derbyn cofnod troseddol, sydd yr un fath ar gyfer unrhyw drosedd.
Mae gwybodaeth, cyngor a chymorth ar gael i unrhyw un sydd ei angen, i’w helpu i ddod o hyd i ffyrdd cadarnhaol o reoli ymddygiad plant, i helpu i osgoi sefyllfa o’r fath.
A yw’n gyfreithiol cosbi plant yn gorfforol ar hyn o bryd?
Mae rhywfaint o amwysedd. Mae taro plentyn yn ymosodiad cyffredin. Os bydd rhiant, neu rywun sydd â chyfrifoldeb rhiant, yn cael ei gyhuddo o ymosodiad cyffredin ar blentyn, gallai’r unigolyn hwnnw geisio defnyddio amddiffyniad cosb resymol. O 21 Mawrth 2022, ni fydd unrhyw un yn cael defnyddio’r amddiffyniad hwnnw yng Nghymru; bydd pob math o gosbi corfforol yn anghyfreithlon.
Beth ddylwn i ei wneud os byddaf i’n gweld plentyn yn cael ei gosbi’n gorfforol neu osydw i’n poeni am blentyn?
- Cysylltwch â’ch adran gwasanaethau cymdeithasol leol.
- Gallwch hefyd ffonio’r heddlu mewn argyfwng neu os yw plentyn mewn perygl.
I gael rhagor o wybodaeth am stopio cosbi corfforol yng Nghymru, ewch i: llyw.cymru/StopioCosbiCorfforol
I gael gwybodaeth ac awgrymiadau am rianta cadarnhaol, ewch i Magu Plant. Rhowch amser iddo: llyw.cymru/rhowchamseriddo
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH