Mae Cyngor Wrecsam wedi gweithredu’n gyflym i fynd i’r afael â thirlithriad ar Smithy Lane ym Mhentrebychan, ger Rhosllanberchgrugog.
Cafodd darn o’r ffordd ei difrodi gan law trwm yn ystod Storm Babet ym mis Hydref. Mae’r Cyngor wedi gweithredu’n gyflym i greu dyluniad i’w thrwsio a phenodi contractwr ac mae disgwyl i’r gwaith ddechrau ar 4 Rhagfyr (2023).
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Mae hon yn ffordd bwysig i’r gymuned leol, felly rydym ni wedi gweithio’n galed iawn i greu dyluniadau a phenodi contractwr da mewn cyfnod byr iawn.
“Rydyn ni wedi penodi contractwr addas i wneud y gwaith, sy’n brofiadol wrth wneud y math hwn o waith.
“Mae tywydd garw’n dod yn fwyfwy cyffredin ym Mhrydain ac mae gennym ni weithdrefnau i’n helpu i ymateb yn gyflym yn ystod storm. Er hynny, mae hi’r un mor bwysig ein bod yn helpu cymunedau i gael eu cefn atynt wedyn.
“Mae’r terfynau amser i wneud y gwaith yn golygu y dylai’r ffordd fod ar agor cyn i waith dawelu dros y Nadolig, ond rydw i’n falch iawn ein bod wedi gallu penodi contractwyr i drwsio Smithy Lane mewn cyfnod mor fyr.”
Dywedodd y Cynghorydd Fred Roberts, sy’n cynrychioli’r ward leol, Rhos: “Fe wnaeth y storm ein taro ni’n galed ac roedd y difrod i’r ffordd yn dipyn o ergyd, ond rydw i’n falch ein bod wedi gallu gweithredu mor gyflym.
“Mae’r Cyngor yn ariannu’r gwaith drwy addasu’r rhaglen o waith mae wedi’i chynllunio, gan ei fod yn deall bod trwsio’r ffordd yn flaenoriaeth i’r gymuned.
“Mae hyn yn newyddion da ac rydw i’n edrych ymlaen at weld y gwaith yn cychwyn.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Paul Pemberton, sy’n cynrychioli ward Ponciau ger llaw: “Mae llawer o drigolion pryderus sydd wedi’u heffeithio yn fy ward i – sy’n taro ar ward Rhos – wedi holi am y ffordd.
“Mae’r Cynghorydd Roberts a minnau wedi bod yn trafod gyda swyddogion ers y dechrau ac wedi ceisio rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’n trigolion. Hoffwn ddiolch i bawb sydd ynghlwm â’r gwaith am fynd ati mor gyflym ac rwy’n edrych ymlaen at weld y ffordd ar agor eto.”