Efallai y bydd ychydig o wynebau newydd o amgylch y dref ar nosweithiau Gwener a Sadwrn, wrth i Fugeiliaid Stryd ddechrau eu swyddi i sicrhau bod pawb yn mwynhau eu noson allan yn ddiogel.
Bydd y bugeiliaid yn cefnogi swyddogion yr heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu i gynnig cyngor a chefnogaeth a chyfeirio pobl at Fannau Diogel megis Hafan y Dref.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Bydd 4 Bugail wrth law, wedi’u darparu gan Parallel Security, ac mae bob un ohonynt wedi derbyn hyfforddiant Awdurdod y Diwydiant Diogelwch. Maent yn edrych ymlaen at sicrhau bod y rhai sy’n mwynhau bywyd nos canol y dref yn cael noson i’w chofio – nid noson i’w hanghofio.
Bydd y bugeiliaid yn gwisgo tabardau glas a bydd modd dod o hyd iddynt mewn lleoliadau amrywiol yn ystod adegau prysuraf canol y dref tan oriau mân y bore.
Bydd y stiwardiaid hyn yn gweithio ar ein strydoedd tan ddiwedd mis Mawrth diolch i gyllid a sicrhawyd drwy Gronfa Strydoedd Mwy Diogel y Swyddfa Gartref.
Dywedodd y Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, “Mae’r Bugeiliaid Stryd yn cael eu croesawu wrth sicrhau bod strydoedd Wrecsam yn ddiogel i’r rhai sy’n mwynhau economi gyda’r nos canol y dref.
“Mae’n hollbwysig bod merched yn teimlo’n hyderus ac yn ddiogel, a’u bod yn gwybod lle i fynd er mwyn cael derbyn cymorth lle bo angen.”
Meddai’r Uwch-arolygydd Neil Evans “Mae Heddlu Cymru’n ymrwymo i weithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau eu noson allan yn ddiogel yn Wrecsam. Rwy’n falch o weld bod y fenter Bugeiliaid Stryd yn cael ei harbrofi yn ein Tref a fydd yn cynnig presenoldeb calonogol a gwerthfawr ar y strydoedd.”
Gallwch ddarganfod mwy am Hafan y Dref a sut y gallai eich helpu i gadw’n ddiogel yma
Hafan y Dref ar agor i rai sydd angen help tra byddant yn mwynhau noson allan
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL