Yn dilyn y streic sy’n mynd rhagddi ar hyn o bryd gan Undeb Unite rhwng 4 a 17 Medi, rydym yn ymwybodol fod casgliadau gwastraff ac ailgylchu wedi cael eu heffeithio.
Rydym yn eich cynghori i roi eich biniau gwastraff ac ailgylchu allan erbyn 7.30am ar eich diwrnod casglu arferol, er os na fyddan nhw wedi cael eu casglu erbyn 3.30pm yna byddai’n syniad ei cadw nes eich diwrnod casglu nesaf (nodwch efallai bydd eich casgliad nesaf yn dal i gael ei effeithio gan y Camau Gweithredu Diwydiannol). Mae casgliadau yn cael eu hasesu o ddydd i dydd, ac mae’n dibynnu ar yr adnoddau sydd ar gael o ran pa wasanaethau y gellir eu cyflawni.
Os na chaiff eich bin ei gasglu, peidiwch ag adrodd amdano fel casgliad a fethwyd, gan na fyddwn yn gallu dychwelyd i wneud casgliadau yn ystod y cyfnod hwn.
Bydd Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Tŷ yn aros ar agor trwy gydol y cyfnod, gyda chynwysyddion ar gyfer gwastraff bwyd ar gael ar y safle ynghyd â dewisiadau gwaredu deunyddiau ehangach eraill.
Nodwch mai oriau agor Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Tŷ yw:
- Y Lodge, Brymbo, Wrecsam LL11 5NR – ar agor 9am – 6pm
- Banc Wynnstay Plas Madoc, Plas Madoc, Wrecsam LL14 3ES – ar agor 9am- 6pm
- Lôn y Bryn, Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam LL13 9UT – ar agor 8am – 8pm
Deallwn y bydd gennych fwy o wastraff a deunyddiau i’w ailgylchu na’r arfer, ac i helpu gyda lle i’w storio rydym yn awgrymu’r canlynol:
- Agor bocsys cardbord allan yn fflat a’i gosod yn ymyl cynwysyddion ailgylchu cyn belled nad ydyn nhw’n fwy o ran uchder neu led na sach las safonol.
- Golchwch a gwasgwch boteli plastig, caniau a thuniau.
- Defnyddiwch y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Tŷ ar gyfer yr holl ddeunyddiau yn cynnwys gwastraff bwyd, plastig, caniau, gwydr a gwastraff na ellir eu hailgylchu.
- Gwasgwch ddeunyddiau yn y biniau, bydd yr holl wastraff yn cael ei gasglu ar ddiwrnod casglu.
- Gellir casglu bagiau bwyd ac ailgylchu ychwanegol o amrywiol leoliadau .
- Os bydd eich bocsys ailgylchu yn llawn, gallwch adael unrhyw ddeunyddiau ychwanegol i’w hailgylchu mewn cynhwysydd solet wrth ymyl eich gwastraff ailgylchu ar eich diwrnod casglu, ac fe awn â’r rheiny i’w hailgylchu hefyd (gan adael y cynhwysydd i chi ei ddefnyddio eto).
- Cofiwch wahanu unrhyw ddeunyddiau ychwanegol, fel y byddech yn arfer ei wneud. Er enghraifft, rhowch ganiau a phlastig yn un cynhwysydd solet, papur a chardfwrdd mewn un arall ac unrhyw wydr ychwanegol mewn cynhwysydd solet arall sy’n debyg i’r rhai sydd gennych e.e. bocs storio plastig o faint tebyg i’r bocs gwyrdd/bocs du/cynwysyddion ar olwynion.
Hoffem ddiolch i chi am eich amynedd yn ystod y cyfnod hwn
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch