Mae Her Ddarllen yr Haf yn ei ôl ar gyfer 2024 gyda’r thema “Crefftwyr Campus.”
Gwyddwn fod plant sy’n darllen llyfrau yn aml iawn yn ennill graddau uwch mewn profion mathemateg, geirfa a sillafu na’r rheiny sy’n darllen llai ac maen nhw hefyd yn cael antur anhygoel ar hyd y ffordd.
Meddai’r Cynghorydd Beverley Parry Jones, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Corfforaethol, “Eleni mae gan ein llyfrgelloedd gasgliadau o lyfrau gwych, eLyfrau ac eLyfraullafar i annog plant i ddarllen o ran pleser yn ystod gwyliau hir yr haf ac i osgoi gostyngiad yn eu darllen yn ystod yr haf.”
Sut i gymryd rhan yn Her Ddarllen yr Haf eleni
Felly peidiwch ag aros tan wyliau’r haf, mae’n bosib i chi lawrlwytho eich eLyfrau ac eLyfraullafar heddiw drwy fynd i www.wrexham.gov.uk/online a dilyn y ddolen BorrowBox i gael mynediad i’ch llyfrgell ar-lein. Neu mae’n bosib ymweld â’ch llyfrgell i edrych ar y llyfrau sydd ar gael.
Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen am bêl-droed Bydd cefnogwyr pêl-droed a pheillwyr yn cael cic allan o furlun ‘enfawr’ diweddaraf Wrecsam!
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch