Bydd band sy’n cynnwys rhai o’r talentau gorau ar y sin gerddoriaeth yng Nghymru yn perfformio yn Tŷ Pawb nos Wener hon.
Mae Blodau Papur yn fand sy’n cynnwys cyn-gystadleuydd y sioe deledu ‘The Voice’ Alys Williams, Osian Williams o’r band roc Cymreig Candelas a’r cerddorion Dafydd & Aled Hughes a Branwen Williams, y tri ohonynt yn chwarae i Cowbois Rhos Botwnnog.
Mae’r cyngerdd yn Tŷ Pawb yn rhan o daith genedlaethol Blodau Papur a drefnwyd gan Clwb Ifor Bach i gefnogi eu halbwm cyntaf hunan-deitl.
Dyma gyfle i brofi llais eneiniog Alys Williams a’i band talentog, gan gyfuno blues a ffync gyda harmonïau hyfryd i mewn i berfformiad byw a fydd yn gwarantu sioe i beidio â cholli.
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
Dyma un o’r traciau o albwm Blodau Papur…
Bydd Blodau Papur yn cael ei gefnogi ar y noson gan dalent canu Cymraeg enfawr arall, Mared…
Ble a phryd
- Bydd Blodau Papur & Mared yn perfformio yn Tŷ Pawb ddydd Gwener, Hydref 13
- Drysau’n agor am 7.30pm
- Pris y tocynnau yw £12
- Mae tocynnau ar gael yn siop oriel Tŷ Pawb, neu ar-lein yma