Mae Gofalwyr Ifanc Wrecsam, Conwy a Sir Ddinbych (WCD Young Carers) yn elusen sy’n cefnogi pobl ifanc dan 18 oed sy’n helpu i ofalu am aelod o’u teulu sydd â chyflwr meddygol, anabledd, problem iechyd meddwl neu sy’n byw gyda phroblemau camddefnyddio sylweddau neu alcohol.
Mae faint mae gofalwr ifanc yn ei wneud i helpu yn gallu amrywio ac efallai na fydd yn digwydd bob dydd, ond pan mae’n digwydd, mae’n gallu bod yn drwm, yn enwedig pan mae cymaint o bethau eraill i’w gwneud.
Nid oes rhaid i ofalwyr ifanc ei wynebu ar eu pen eu hunain.
Mae WCD Young Carers yn credu bod pob gofalwr ifanc yn anhygoel ac maent yn eu hatgoffa nhw o hynny. Mae eu cefnogaeth wedi’i theilwra, yn cynnwys clybiau seibiant bob pythefnos i wahanol grwpiau oedran, teithiau a gweithgareddau dros wyliau’r ysgol, cefnogaeth un-i-un yn ystod amseroedd anodd, eiriolaeth a chodi ymwybyddiaeth mewn ysgolion/colegau a’r gymuned hefyd.
Mae eu tîm o staff a gwirfoddolwyr yn hollol frwdfrydig am ddarparu profiadau chwarae a chyfleoedd eraill am seibiant i ofalwyr ifanc ac rydyn ni’n eu hannog nhw i ddatblygu eu cryfderau fel eu bod nhw’n gallu byw’r bywyd maent ei eisiau.
Fe ddewch chi o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan WCD Young Carers.
Wedi gweld twll yn y ffordd? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.