Cafodd y fideo uchod ei ffilmio ym mis Tachwedd 2018, felly peidiwch â disgwyl dod o hyd i’r holl eitemau a ddangosir yn y siop. Dim ond syniad ydyw o beth i’w ddisgwyl 🙂
Yn Wrecsam, rydym yn parhau i wella o ran ailgylchu.
Rydym yn gweithio’n dda i ailgylchu jariau, caniau, poteli a phapur, ond mae’n bwysig cofio nad dyma’r unig bethau y gellir eu hailgylchu yn Wrecsam.
Yng Nghanolfan Ailgylchu Lôn y Bryn, mae siop wych lle mae modd i chi gael gafael ar fargen neu roi eitemau nad oes arnoch eu heisiau, a chofiwch hyn: mae’r cyfan yn mynd at achos da lleol!
Mae wedi cael ei ddisgrifio fel ‘ogof Aladdin’, a rhaid i ni gytuno â hynny 🙂
EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…
Mae’r siop ailddefnyddio yn cael ei redeg gan Hosbis Tŷ’r Eos, ac os byddwch yn ymweld, mae’n siŵr y dewch o hyd i offer chwaraeon, hwfers, pramiau, dodrefn, beiciau, dodrefn i’r ardd, DVDs, Blu-ray, Cryno Ddisgiau ac eitemau trydanol eraill, ymysg pethau eraill.
I’r sawl sydd yn anghyfarwydd â gwaith anhygoel Tŷ’r Eos, maent yn darparu gofal ar gyfer pobl sydd â salwch terfynol a’u teuluoedd yn rhad ac am ddim ar draws ardal eang sy’n ymestyn o Wrecsam, Sir y Fflint a Dwyrain Sir Ddinbych i Abermo a threfi’r gororau, yn cynnwys Croesoswallt a’r Eglwys Wen.
Bydd yr holl eitemau a roddir yn cael eu glanhau a’u profi o ran diogelwch cyn cael ei hail-werthu yn y siop ailddefnyddio. Fel y gallwch weld o’n fideo, mae digonedd o ddewis.
Gallwch roi eitemau i’r siop ailddefnyddio yn unrhyw un o’r tair canolfan ailgylchu. Mae ardal hefyd felly wedi ei neilltuo yn ein canolfannau ym Mrymbo a Phlas Madoc ar gyfer rhoi eitemau.
Os ydych yn ansicr o leoliad yr ardaloedd hyn, rhowch waedd i un o’n goruchwylwyr, ac fe fyddant yn medru eich cyfeirio i’r lle iawn.
Ond dyna ddigon o fan-siarad – rydym ni am fynd i chwilio am fargen. Welwn ni chi yn y man! ????
Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…
COFRESTRU