Mae diwrnod sgip cymunedol wedi helpu tenantiaid y cyngor i dacluso eu hardal leol.
Trefnwyd y digwyddiad glanhau, a gynhaliwyd yng Ngwenfro, Parc Caia Wrecsam, gan Swyddfa Ystâd Caia Cyngor Wrecsam.
Rhoddwyd sgipiau ar ran hygyrch o dir ac roedd tenantiaid yn gallu cael gwared ar sbwriel swmpus ac eitemau diangen eraill.
Roedd staff Cyngor o Strydwedd, Swyddfa Ystâd Caia a gwirfoddolwyr a oedd yn denantiaid wrth law i helpu i gael gwared ar yr eitemau, a oedd yn cynnwys popeth o setiau teledu i feiciau.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
“Diwrnod llwyddiannus iawn…”
Daeth yr Aelod Lleol dros Gwenfro, Cyng Carrie Harper, i helpu’r tîm o wirfoddolwyr.
Dywedodd: “Mae wedi bod yn ddiwrnod llwyddiannus iawn. Mae tenantiaid o bob rhan o’r ardal wedi bod yn dod â’u heitemau diangen a’u sbwriel. Rydym wedi llenwi tri sgip felly mae hyn yn wych i’r gymuned leol ac mae wedi caniatáu i ni symud y sbwriel o gartrefi a gerddi pobl.
Diolch i Strydwedd, y gwirfoddolwyr a oedd yn denantiaid ac i’r gofalwyr a staff o Swyddfa Ystâd Caia am drefnu’r digwyddiad ac am ddod i helpu. Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o denantiaid yn cymryd mantais o’r cynllun gwych hwn.”
Diwrnodau sgip sydd i ddod ar eich ystâd…
Meddai’r Aelod Arweiniol Tai, y Cynghorydd David Griffiths, “Rwyf wrth fy modd bod y digwyddiad hwn wedi bod yn gymaint o lwyddiant. Mae ein swyddfeydd ystâd yn cynnal diwrnodau sgip fel hyn o amgylch y Fwrdeistref Sirol, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf, ac maen nhw bob amser yn boblogaidd. Maen nhw’n gyfle gwych i denantiaid gael gwared ar eitemau swmpus heb orfod teithio’n bell o’u cartrefi.”
Gall tenantiaid y Cyngor gael gwybod mwy am ddigwyddiadau diwrnodau sgip sydd ar y gorwel drwy ddilyn tudalen Tai Cyngor Wrecsam ar facebook, a drwy danysgrifio i wasanaeth Newyddion Diweddaraf y Cyngor.
Gallwch gael newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam gyda Fy Niweddariadau.</em
COFRESTRWCH FI