Mae mwy a mwy o bobl ar draws Wrecsam yn dechrau ailgylchu eu gwastraff bwyd, fel yr oedd y ffigyrau diweddaraf y gwnaethon ni eu cyhoeddi yn eu dangos 🙂
GWNEWCH GAIS AM FIN AILGYLCHU BWYD YMA!
Ers i ni gyhoeddi’r ffigyrau hynny, ‘da ni hefyd wedi cael ffigyrau mis Chwefror, sy’n dangos ein bod ni wedi ailgylchu 146.2 tunnell o wastraff bwyd yn ystod y mis – tua 8 tunnell yn fwy na ffigyrau mis Chwefror y llynedd!
‘Da ni’n falch iawn o ddweud ein bod ni’n dal i gael ceisiadau am finiau bwyd a bydd hyn yn ein helpu ni i wella’r ffigyrau eto fyth – yr wythnos ddiwethaf mi wnaethon ni ddweud wrthoch chi ein bod ni wedi cael 160 o geisiadau …. mae’r ffigwr wedi codi i dros 300 erbyn hyn!
I’ch atgoffa – gallwch wneud cais am fin ailgylchu bwyd newydd ar ein gwefan.
EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…
Amynedd
Mae’r ffaith ein bod ni’n derbyn cymaint o geisiadau yn golygu y bydd arnoch chi angen ychydig o amynedd wrth i ni ymateb i bob un!
Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r ffaith ein bod ni wedi derbyn nifer fawr o geisiadau am finiau ailgylchu bwyd newydd yn newyddion gwych, a bydd hyn yn hwb mawr i ni o ran cyrraedd ein targed ailgylchu o 70%.
“Ond mae’r nifer o fawr o geisiadau ‘da ni wedi eu cael yn golygu y bydd yn rhaid i rai pobl ddisgwyl i’w bin newydd gyrraedd wrth i ni weithio drwy’r archebion.
“Hoffwn ddweud wrth y bobl yma ein bod ni wirioneddol yn gwerthfawrogi eu hamynedd, a diolch o galon iddyn nhw am ein helpu ni i ailgylchu hyd yn oed yn fwy.”
Mae’r blog diweddar yma yn ein hatgoffa o beth y gallwn ni ei ailgylchu yn y bin gwastraff bwyd.
Manteision
Mae yna fanteisio gwych i ailgylchu bwyd…..
Ochr yn ochr â manteision amgylcheddol o droi eich gwastraff yn gompost (sydd ar gael am ddim o’n canolfannau ailgylchu gyda llaw, rydych hefyd yn gwneud mwy o le yn eich bin du.
Hefyd, mae eich bin bwyd yn cael ei wagio bob wythnos ond dydi eich bin gwastraff cyffredinol ddim. Os ‘da chi’n rhoi eich gwastraff bwyd gyda’ch gwastraff cyffredinol, bydd yn sefyll yno am bythefnos ac yn dechrau drewi.
Peidiwch ag anghofio am y bagiau am ddim i’w rhoi yn y bin bwyd hefyd…os byddwch angen mwy o fagiau, clymwch un gwag am handlen eich bocs ac mi gewch chi rolyn newydd ar eich diwrnod casglu.
GWNEWCH GAIS AM FIN AILGYLCHU BWYD NEWYDD YMA!
Fel bob amser, diolch yn fawr i chi am ailgylchu 🙂
Dyddiau casglu biniau – nodyn atgoffa
Cofiwch, gallwch danysgrifio i dderbyn neges bob wythnos i’ch atgoffa am ddyddiad casglu eich bin.
Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…
COFRESTRU