Nid yw 75% o ddefnyddwyr y rhyngrwyd yn sgrolio heibio tudalen gyntaf chwiliad, felly pam fod risg yn colli allan?
Un o’r rhannau pwysicaf o fod ar-lein yw’r busnes mewn gwirionedd, y mwyaf gweladwy ydych chi a’r uchaf rydych chi’n ymddangos yn eich peiriant chwilio, y mwyaf o draffig fyddwch chi’n ei gynhyrchu i’r safle.
Mae hon yn rhan hollbwysig o’ch strategaeth farchnata ond i lawer – yn enwedig y rhai sy’n ansicr wrth lansio eu hunain ar-lein – gall hyn ymddangos yn frawychus.
Fodd bynnag, ym mis Ebrill gallwch ymunwch â gweithdy Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO) Cyflymu Cymru i Fusnesau i gael cyngor ymarferol ac arbenigol wedi ei gynllunio i’ch helpu chi i ddeall sut i ddefnyddio SEO i roi eich busnes ar frig canlyniadau peiriant chwilion fyma yn Wrecsam.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.
Bydd y gweithdy hwn yn rhoi dealltwriaeth i chi o’r ffordd mae peiriannau chwilio yn graddio eich tudalennau gwe, pam mae hi mor bwysig i chi ddefnyddio arferion gorau SEO, a sut i weithredu cynllun SEO gan ddefnyddio technegau ar y dudalen ac oddi arni.
Byddwch yn dysgu:
- Sut mae peiriannau chwilio yn graddio eich gwefan
- Offer sylfaenol i fonitro a gwella eich gweithgareddau SEO
- Sut i nodi geiriau allweddol/ymadroddion gorau ar gyfer eich busnes
- Sut i greu cynllun gweithredu SEO a strategaeth hirdymor
- Awgrymiadau a thechnegau effeithiol ynghylch gwella eich SE
- Sut i fesur beth sy’n gweithio a beth sydd ddim yn gweithio.
Felly manteisiwch ar y cyfle gwych hwn a ddarperir gan y rhai sy’n gwybod i gael y gorau o’ch presenoldeb ar-lein a datgloi’r potensial di-ben.
Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.
COFIWCH EICH BINIAU