Rhannwyd y darn hwn ar ran Cyflymu Cymru i Fusnesau.
19 Medi, 1.30pm-4pm, Canolfan Catrin Finch, Wrecsam, LL11 2AW
Tyfodd busnesau yn y DU sy’n defnyddio technoleg £30 biliwn rhwng 2011 a 2015.
Yn y gweithdy hwn sydd wedi’i ariannu’n llwyr, cewch gyfle i ddarganfod sut gallwch gynyddu eich presenoldeb ar-lein, ennill cwsmeriaid newydd, arbed arian a thyfu eich busnes gyda thechnoleg ddigidol.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Byddwch yn dysgu:
- Sut mae arbed arian a chynyddu elw gyda’r Cwmwl.
- Sut i dargedi gwsmeriaid newydd ac adeiladu’ch brand gyda’r cyfryngau cymdeithasol.
- Sut mae gweithio’n glyfrach gyda gweithio symudol a hyblyg.
- Sut y gallwch feithrin perthnasau gwell â chwsmeriaid.
- Sut i ysgrifennu cynnwys gwe sy’n sefyll ar wahân.
- Sut gall offer marchnata digidol helpu i ddenu eich marchnad darged.
Dywedodd 97% o fynychwyr bod ein cyrsiau o fudd i’w busnesau…
“Difyr ac addysgiadol dros ben.”
“Gwych, addysgiadol a defnyddiol iawn.”
September 19 2017, 1:30pm-4pm, Catrin Finch Centre, Glyndwr University, Wrexham LL11 2AW
Cofrestrwch eich diddordeb ar gyfer y digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar-lein nawr!
COFRESTRWCH RWAN
Mae ein gweithdai yn rhan o becyn wedi’i ariannu’n llwyr o gyngor ac arweiniad TGCh ar gyfer busnesau yng Nghymru sy’n cynnwys: ymgynghoriad dros y ffôn, cyngor 1:1, adolygiad o wefan ynghyd â mynediad i’n hwb gwybodaeth ar-lein.
Ewch i wefan Cyflymu Cymru i Fusnesau i gael rhagor o wybodaeth