Mae hi’n bum mlynedd ers i ni a grwpiau a sefydliadau eraill arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog i sicrhau nad yw cyn-filwyr ein cymunedau dan anfantais mewn unrhyw ffordd oherwydd eu gwasanaeth dros eu gwlad.
Roeddem wedi meddwl dal i fyny gyda’n Cefnogwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd David Griffiths, i weld beth sydd wedi digwydd ers hynny a sut mae cyn-filwyr yn cael cymorth gan y Cyfamod.
Cyflawniadau i fod yn falch ohonynt
Dechreuodd y Cynghorydd David Griffiths, Cefnogwr y Lluoedd Arfog, drwy ddweud wrthym ba mor falch ydoedd o’r cyflawniadau a wnaed yn Wrecsam.
“Rydw i’n cadeirio gweithgor Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog Wrecsam, ac rydw i wedi gwneud hynny ers mis Mehefin 2013, ac mae’r bartneriaeth hon wedi gweithio’n galed i sicrhau bod y cyn-filwyr a’u teuluoedd yn Wrecsam yn gallu cael mynediad at y cymorth maent eu hangen. Rydw i’n falch iawn o hyn, ac rydw i’n gwybod y bydd yn parhau yn y dyfodol.”
Beth sydd wedi cael ei wneud?
Mae nifer o enghreifftiau o’r gwaith gwych sydd wedi cael ei wneud yn yr ardal leol, ac mae’r Cynghorydd Griffiths wedi dewis canolbwyntio ar rai ohonynt.
Yn gyntaf, dywedodd wrthym am Tŷ Dewr: “Rydym wedi sicrhau nawdd o £1.6 miliwn mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Tai Dewis Cyntaf ar gyfer dau gartref i gyn-filwyr yn Wrecsam.”
Tŷ Dewr
“Y cyntaf yw bod Tŷ Dewr yn golygu union hynny. Dyma lety i gyn-filwyr sy’n cael pethau’n anodd o bosib i gymryd y cam hwnnw i fywyd sifil, neu sy’n dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD), dibyniaeth neu broblemau iechyd meddwl eraill.
“Mae atgyfeiriadau diweddar i Dŷ Dewr yn cynnwys cyn-filwyr sydd wedi bod yn lloches nos Wrecsam, Tŷ Nos.”
Tŷ Ryan
Mae Tŷ Ryan yn unigryw gan fod cyn-filwyr wedi helpu i adeiladu’r cyfadeilad rhandy, gan roi sgiliau allweddol iddynt ar hyd y ffordd.
Dyma ein hail gynnig i gefnogi cartrefi i gyn-filwyr, ac mae’n brosiect hunanadeiladu sydd wedi creu 16 rhandy ar gyfer cyn-filwyr a’u teuluoedd, yn cynnwys cyfleusterau i gyn-filwyr ag anableddau. Dyma’r cyntaf o’i fath yng Nghymru ac fe roddodd y Cyngor dir i’r prosiect i sicrhau ei fod yn cael ei weithredu.
Roedd y prosiect yn bartneriaeth rhwng Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf, Asiantaeth Hunanadeiladu Cymunedol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, y Weinyddiaeth Amddiffyn a William Homes Cyf.
Ym mha ffordd y bu o gymorth?
Dywedodd y Cynghorydd Griffiths bod y “prosiect yn cynnig profiad gwaith, hyfforddiant a chymwysterau i gyn-filwyr mewn ystod eang o feysydd. Ar ddiwedd y prosiect, roedd sawl un o’r rhai oedd wedi gweithio ar Tŷ Ryan wedi cymryd tenantiaeth yno hefyd.
“Mae Tenantiaid wedi sicrhau cyflogaeth am dâl, wedi dechrau yn y coleg neu ar gyrsiau gradd, ac maent wedi cysylltu ag aelodau teulu yr oeddent wedi ymbellhau oddi wrthynt, ac o ganlyniad mae eu lles wedi gwella. Disgrifiodd un o’r tenantiaid Tŷ Ryan fel profiad oedd wedi trawsnewid ei fywyd.”
Cefndir
Ar Ebrill 5, 2013, arwyddodd partneriaid ar draws Wrecsam Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog ar gyfer Wrecsam, sy’n nodi ac yn cofio’r aberth aelodau o’r gymuned, yn cynnwys dynion gwasanaeth a theuluoedd sy’n galaru.
Arweiniodd hyn at sefydlu Cynllun Grantiau’r Cyfamod Cymunedol, sy’n noddi prosiectau lleol a dod â chymunedau sifil a’r lluoedd arfog ynghyd.
Dyrannwyd £30 miliwn i’r cynllun gyda £5 miliwn yn mynd i brosiectau yn 6 rownd gyntaf cynigion amdano.
Etifeddiaeth cymorth
Bydd etifedd hir dymor Cyfamod y Lluoedd Arfog yn nodi dioddefaint y gorffennol ac yn rhoi gymaint â phosib yn ôl i’r cyn-filwyr a’u teuluoedd.
I gloi, dywedodd y Cynghorydd Griffiths, “ i mi fel Cefnogwr y Lluoedd Arfog, rydw i’n falch iawn o fod yn rhan o’r gefnogaeth i’n cyn-filwyr a’u teuluoedd er mwyn nodi’r aberth maent wedi eu gwneud drosom i gyd.”
A gallaf ddychmygu ein bod ni gyd yn cytuno gyda’r datganiad hwnnw.
I gael mwy o wybodaeth anfonwch neges e-bost at AFCC@wrexham.gov.uk.
Problem gyda cheudwll? Dwedwch wrthym ni yn hawdd ac yn gyflym ar-lein
DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL