Ansicr pwy yw eich cynghorydd lleol? Mae’n werth darganfod yr ateb…
Mae gennym 52 o gynghorwyr yng Nghyngor Wrecsam, ac mae pob un yn cael eu hethol i wasanaethu ardal neu gymuned benodol – a elwir yn ‘ward’.
Gallwch ddarganfod pwy yw eich cynghorydd lleol chi drwy edrych ar ein gwefan.
Efallai bydd hyn yn newydd i chi. Dim ond 47 ward sydd yn y fwrdeistref sirol.
Felly os ydych yn byw yn wardiau Cefn, Coed-Poeth, Dwyrain / De Gwersyllt, Llai neu Ponciau, mae gennych ddau gynghorydd.
Panel annibynnol o’r enw Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru sy’n penderfynu ar y nifer o wardiau.
Ond, gallai pethau newid. Mae’r comisiwn yn adolygu sut mae wardiau wedi eu trefnu ar draws Cymru.
Gwyliwch y gofod.
Sut caiff cynghorwyd lleol eu hethol?
Felly… sut mae cynghorwyr yn dod yn gynghorwyr? Cwestiwn teg.
Mae cynghorwyr lleol yn bobl sy’n adnabod ac sy’n malio am eich ardal leol. Fel arfer rhaid iddynt fyw neu weithio gerllaw cyn iddynt allu bod yn gymwys fel ymgeisydd mewn etholiadau lleol.
A chi – ein trigolion lleol – sydd a’r pŵer i ddewis pwy sy’n cael ei ethol/hethol ar gyfer eich ardal chi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn pleidleisio!
Er mwyn cymryd rhan mewn etholiadau, rhaid i chi fod yn 18 neu’n hŷn ac wedi cofrestru i bleidleisio. Os nad ydych wedi cofrestru, gallwch wneud hynny ar-lein.
Mae’n gyflym ac yn hawdd.
Pa mor aml maent yn cael eu hethol?
Etholwyd eich cynghorwyr bwrdeistref sirol presennol yn 2017. Fel arfer, caiff cynghorwyr eu hethol bob pedair neu bum mlynedd.
Pan gynhelir yr etholiad nesaf, efallai y bydd eich cynghorydd yn dewis sefyll eto, neu yn dewis peidio.
Beth mae cynghorwyr yn ei wneud?
Mae cynghorwyr yno i wrando arnoch, ac i gynrychioli’ch cymuned – gan weithredu fel dolen gyswllt â’r cyngor, a sicrhau bod barn a phryderon pobl leol yn cael eu clywed.
Maent hefyd yn chwarae eu rhan yn y penderfyniadau mae’r cyngor yn ei wneud – a byddant fel arfer yn eistedd ar un pwyllgor o leiaf (ewch i weld erthygl flaenorol am fwy o wybodaeth).
Yn ogystal â’r pethau mawr, maent hefyd yn helpu i ddatrys problemau ar raddfa lai, ond sydd yn dal i effeithio bywydau pobl.
Gan fod pob ward yn gartref i filoedd o bobl, rhaid i’ch cynghorwyr ystyried amrywiol safbwyntiau gwrthgyferbyniol, a cheisio darparu’r canlyniad mwyaf teg i bawb.
Gall fod yn waith caled iawn.
Mae yna lawer i’w wneud. Yn ogystal â rhoi barn ar faterion fel tai, gofal cymdeithasol, cludiant a threthi, maent yn cymryd rhan mewn pob math o brosiectau er budd eu cymunedau… ac er budd Wrecsam yn gyffredinol.
Rhaid iddynt ymrwymo llawer iawn o amser ac egni.
Sut galla’ i gysylltu efo fy nghynghorydd?
Gallwch gysylltu â’ch cynghorydd lleol gyda chwestiynau a phryderon am eich ardal leol.
Gallwch gael hyd i’w manylion cyswllt nhw ar ein gwefan.
Gallwch ffonio, anfon e-bost neu hyd yn oed anfon llythyr os ydych am gysylltu yn y ffordd hen ffasiwn.
Cofiwch, mae’ch cynghorydd yn siarad ar eich rhan – felly mae’n bwysig i chi ddweud eich barn pan fyddwch angen eu help neu os oes gennych rywbeth pwysig i’w ddweud.
Mae cysylltu gyda’ch cynghorydd lleol yn rhoi’r cyfle i chi weld effaith gwirioneddol yn eich cymuned.