Mae disgyblion sydd ar y cynghorau ysgol yn Wrecsam wedi cael blwyddyn brysur yn codi arian i gael siediau beiciau newydd, gosod larymau mwg yn y toiledau, ailwampio mynediad i’r anabl neu chwilio am lwyddiannau cyn-ddisgyblion – ac roedd digwyddiad Cynghorau Ysgol Cyngor Wrecsam yn lle gwych i rannu eu prosiectau gyda’i gilydd.
Mae cynghorau ysgol yn cynnwys disgyblion o bob blwyddyn ysgol, a’u gwaith nhw yw cynrychioli disgyblion eraill i’r pennaeth a’r staff, a lleisio eu safbwynt ar ran poblogaeth yr ysgol
Roedd digwyddiad cynghorau ysgol, a drefnwyd gan y Tîm Cyfranogi Wrecsam, yn ffordd wych i ddangos i bobl ifanc y cyfleoedd sydd ganddynt yn Wrecsam i ddysgu mwy am ddemocratiaeth ar y cyfan, sut y gallent gymryd rhan a hefyd sut i wella eu sgiliau wrth gynrychioli eu cyd-ddisgyblion.
Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.
Roedd hefyd yn gyfle gwych i gynghorau o wahanol ysgolion gymharu nodiadau ar yr hyn y maent wedi ei wneud.
Wrth gyflwyno’r digwyddiad, dywedodd Donna Dickenson, Pennaeth y Gwasanaeth Atal a Chefnogaeth, Gwasanaethau Addysg ac Ymyrraeth Gynnar: “Yn yr adran addysg rydym wirioneddol eisiau gwybod beth mae plant a phobl ifanc yn meddwl amdano, felly rydym bob amser yn mynd at bobl ifanc fel chi a gwrando ar eich llais chi. Rwy’n gobeithio eich bod heddiw wedi cael cyfle i rannu syniadau a dysgu am gyfleoedd a fydd yn rhoi sgiliau i chi wrando ar anghenion eich cyfoedion ac yn gallu cyflwyno eich achos.
“Hefyd chi yw’r genhedlaeth nesaf o bleidleiswyr ac mae’n bwysig eich bod yn gwybod sut mae hyn yn gweithio. Mae llawer o syniadau yr ydym yn eu gwneud fel cyngor yn effeithio arnoch chi, felly rydym eisiau gwybod beth ydych yn feddwl amdano.”
Daeth disgyblion o Ysgol Clywedog, Ysgol Bryn Alyn, Ysgol St Christopher, Ysgol Morgan Llwyd, Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff ac Ysgol y Grango i’r digwyddiad a dysgu am Senedd yr Ifanc, tîm Ysgolion Iachus a Disgybl Lywodraethwyr Cyswllt, a thrafod beth oedd yn gwneud cynghorydd ysgol berffaith.
Bu i’r gweithgaredd olaf ysgogi llawer o sgyrsiau, ac yn ffordd wych i bobl ifanc feddwl am ba sgiliau mae cynghorydd ysgol ei angen i gynrychioli ei ddisgyblion orau – ac roedd gwneud ymdrech, gofalu am syniadau eraill, bod yn amyneddgar, cadw at amser a bod yn gydweithredol wedi cyrraedd y rhestr.
Dywedodd Caroline Bennett, Cydlynydd Cyfranogiad Cyngor Wrecsam: “Roedd hwn yn ddiwrnod pwysig a llawn hwyl. Mae’r pobl ifanc a ddaeth yn chwarae rôl bwysig o fewn strwythur eu hysgolion, ac mae ganddynt rolau gwerthfawr i gysylltu eu cyd-ddisgyblion gyda thimau rheoli’r ysgolion. Rydym yn gobeithio eu bod wedi gadael y digwyddiad gyda gwell ddealltwriaeth o’u rôl a sgiliau sydd yn eu gwneud yn well wrth gynrychioli eu cyd-ddisgyblion.”
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI