Beth sy’n digwydd os na allwch chi fynd i’r orsaf bleidleisio i bleidleisio? Beth bynnag fo’r rheswm, nid oes angen i chi golli eich cyfle i bleidleisio – gallwch bleidleisio drwy’r post neu drwy ofyn i rywun fod yn ddirprwy i chi. Darllenwch ymlaen i wybod mwy.
Mae pleidleisio drwy’r post yn golygu y byddwch yn derbyn eich papur pleidleisio trwy eich blwch post ychydig o wythnosau cyn yr etholiad. Wedyn byddwch yn bwrw eich pleidlais ac yn ei roi yn y post – nid oes angen i chi roi stamp.
Gallwch wneud cais am bleidlais bost ar wefan y Llywodraeth.
Os oes gennych bleidlais bost eisoes, mae rhywfaint o newidiadau wedi bod eleni. Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd i’n tudalennau gwe etholiadol i weld beth mae’r newidiadau hyn yn ei olygu i chi.
Mae pleidleisio drwy ddirprwy yn golygu eich bod wedi rhoi caniatâd i rywun arall bleidleisio ar eich rhan. Dim ond o dan rhai amgylchiadau y caniateir hyn, a dylech ond wneud cais i unigolyn yr ydych chi’n ymddiried ynddo i fwrw eich pleidlais drosoch.
Ceir mwy o wybodaeth am bleidleisio drwy ddirprwy ar ein tudalennau etholiadol a gallwch wneud cais i rywun fod yn ddirprwy i chi ar wefan y Llywodraeth.
Os yw rhywun wedi bod yn ddirprwy i chi yn y gorffennol, neu os ydych chi wedi gweithredu fel pleidleisiwr drwy ddirprwy ar ran rhywun arall yn y gorffennol, mae newidiadau pwysig wedi bod i’r rheolau. Darllenwch drwy’r wybodaeth ar ein tudalen Sut i Bleidleisio i weld a yw’r newidiadau hyn yn effeithio arnoch chi.
I wneud cais i bleidleisio drwy’r post, neu i ethol dirprwy, bydd angen i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio. Gallwch wneud hyn mewn ychydig o funudau ar dudalen we cofrestru i bleidleisio’r Llywodraeth.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.