Rydym yn gyfrifol am dros 1,000km o rwydwaith ffyrdd ar draws y fwrdeistref sirol.
Mae hynny’n gofyn am lawer o waith cynnal a chadw i gadw popeth yn weithredol – o arwynebu i oleuo, ac o welliannau i Orsaf Bws Canol Tref Wrecsam i lwybrau seiclo a llwybrau cerdded.
Mae ein Rhaglen Gwaith Cyfalaf ar gyfer 2018/19 yn nodi’r math o waith rydym am ei wneud dros y flwyddyn nesaf, a phryd yr ydym am ei wneud.
Mae tua gwerth £3m o waith yn cael ei gynllunio, i gynnwys gwahanol ffyrdd a’r math o waith sydd ei angen arnynt.
Mae ychydig o’r gwaith sy’n cael ei nodi yn y Rhaglen yn unol â’r pethau a gododd aelodau o’r cyhoedd eu pryderon ynghylch, megis tyllau yn y ffordd a thacluso sbwriel.
Dyma rai o’r pethau sydd gennym wedi’i gynllunio…
Gwaith clirio ar ymylon ffyrdd a bariau
Rydym eisoes wedi cyhoeddi’r gwaith clirio a thorri sydd wedi cael ei wneud ar hyd prif ffyrdd y fwrdeistref sirol.
Mae gennym waith clirio pellach ar hyd y cefnffyrdd – yr A483 a’r A5 yn bennaf—i ddod yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn.
Bydd y gwaith o dorri gwair ar hyd yr A483 yn dechrau yn ystod y mis, gyda thorri ar hyd yr A55 wedi’i gynllunio ar gyfer mis Medi a mis Hydref.
Rydym wedi trefnu clirio sbwriel ynghyd â’r gwaith sydd eisoes wedi’i gynllunio, fel na fyddwn yn gorfod cau’r llinellau ddwywaith mewn cyfnod byr o amser, felly cewch eich sicrhau ein bod yn awyddus i gadw lefel yr amhariad mor isel â phosib.
Bydd gwaith cynnal a chadw, a thorri coed hefyd i helpu gyda gwelededd arwyddion ffordd.
Gwaith arwynebu – lle ydym ni’n mynd?
Nid yw’n gyfrinach nad oedd y gaeaf oer a hir a gawsom wedi gwneud unrhyw les i’r ffyrdd.
Ond mae gennym ddigon o waith arwynebu ac ail-adeiladu wedi’i gynllunio o ddiwedd y mis hyd at wanwyn y flwyddyn nesaf, ar draws y fwrdeistref sirol.
Ynghyd â’n harian ein hunain, cawsom £1.2m pellach gan Lywodraeth Cymru, yn enwedig ar gyfer gwella ffyrdd A a B.
Bydd rhan o’r cyllid a gawsom yn mynd tuag at waith atal i sicrhau na fydd unrhyw aeafau garw pellach yn difrodi’r ffordd gynddrwg a’r un diwethaf.
Llwybrau diogel
Tra bo gwaith i briffyrdd yn bwysig, un o’n blaenoriaethau pennaf yw sicrhau bod pobl yn gallu cyrraedd pen eu taith heb orfod defnyddio eu car – ac mae hynny’n golygu gwneud ffyrdd a llwybrau’n addas i gerddwyr a seiclwyr.
Yn dechrau o fis Hydref ac yn parhau tan fis Mawrth 2019, mae gennym waith Llwybrau Diogel wedi’i gynllunio yn ardaloedd yr Orsedd a Chefn Mawr.
Bydd hyn yn cynnwys cysylltiadau gwell i seiclwyr a cherddwyr, ac mae’n cael ei gefnogi gan grant o £160,000 gan Lywodraeth Cymru.
Cynllunnir gwelliannau diogelwch ar y ffyrdd i’r A539 ar gyrion Llannerch Banna.
A gwaith arall…
Rydym eisoes wedi cyhoeddi’r gwaith a gynlluniwyd ar gyfer Gorsaf Bws Wrecsam – gyda rhannau ohono wedi dechrau – sef gwelliannau i bethau fel golau, rheoli plâu, arwyddion a pheintio.
Ac mae gennym £243,000 ychwanegol i ddarparu sgriniau newydd, seddi a thoiledau wedi’u hadnewyddu yn yr orsaf.
Mae gennym gynlluniau i uwchraddio’r goleuadau stryd i fylbiau LED dros y tair blynedd nesaf hefyd, gyda gwaith i ddechrau cyn diwedd y flwyddyn.
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydw i’n falch iawn i gyhoeddi bod ein rhaglen waith yn dechrau’n fuan iawn.
“Dyrannwyd £3 miliwn gan weinyddiaeth Cyngor Wrecsam, ynghyd â’r nawdd gan Lywodraeth Cymru.
“Byddwn yn gweld gwelliannau i’n ffyrdd a Gorsaf Bws Wrecsam, ynghyd â gwaith cynnal a chadw cylchredol ar hyd yr A483. Bydd hyn yn sicrhau bod cynnal a chadw ein seilwaith yn flaenoriaeth i’r cyngor yn dilyn cyfnod gaeafol anodd iawn o rew ac eira.
“Yn ogystal ag arwynebu a chlirio, mae’r Rhaglen Gwaith Cyfalaf yn amlinellu ystod eang iawn o welliannau, a rhagor o fanylion am waith unigol a fydd ar gael yn y dyfodol agos.”
Problem gyda cheudwll? Dwedwch wrthym ni yn hawdd ac yn gyflym ar-lein.
DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL