Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Swyddogion yn Wrecsam yn mynd i’r afael â Masnachwyr Twyllodrus
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Swyddogion yn Wrecsam yn mynd i’r afael â Masnachwyr Twyllodrus
Y cyngor

Swyddogion yn Wrecsam yn mynd i’r afael â Masnachwyr Twyllodrus

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 22, 2021 1:31 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Rogue Trader
RHANNU

Fe wnaeth Safonau Masnach a Swyddogion Heddlu Wrecsam gerdded y strydoedd yn ddiweddar i siarad â masnachwyr a thrigolion yn ystod Wythnos Gweithredu ar Fasnachwyr Twyllodrus, gan dargedu Masnachwr Twyllodrus sy’n dosbarthu taflenni gwybodaeth i drigolion.

Mae nifer o fasnachwyr cyfreithlon yn defnyddio taflenni gwybodaeth, a chroesawyd y fenter hon gan fod nifer o “fasnachwyr twyllodrus” yn dod o du allan i ardal Wrecsam, ac yn targedu ardaloedd cyn gwneud galwadau diwahoddiad a rhoi pwysau ar bobl i wneud gwaith diangen – yn aml o ansawdd isel am bris uchel iawn.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Mae gan nifer o’r taflenni gwybodaeth rifau 0800 ac yn cynnig gostyngiadau megis “cyfraddau arbennig ar gyfer pobl hŷn” neu’r geiriau “no job too big or small” a “cooling off periods”.

Os ydych yn derbyn taflenni gwybodaeth o’r fath, y cyngor yw eu taflu yn y bin, hyd yn oed os ydych yn edrych yn broffesiynol.

Gall ddefnyddio gwefannau fel Bark hefyd fod yn beryglus, fel y profodd un trigolyn lleol ar ôl hysbysebu i gael dyfynbris am waith, ond wedyn darganfod bod y masnachwr wedi dechrau ar y gwaith ar unwaith heb gyflwyno unrhyw ddogfennau gofynnol. Codwyd pris aruthrol ar y trigolyn ac roedd y gwaith o ansawdd gwael.

Cofiwch!

  • Os ydych yn gofyn i fasnachwr ymweld â’ch eiddo, sicrhewch eich bod wedi derbyn dyfynbris manwl am y gwaith a threuliwch ychydig o funudau yn meddwl yn ofalus amdano. Dylech fod yn wyliadwrus iawn os nad ydynt yn fodlon rhoi pethau ar bapur, byddai masnachwr dibynadwy yn hapus i wneud hyn.
  • Dylai’r dyfynbris gynnwys pris penodedig gan gynnwys TAW, crynodeb o’r gwaith i’w gwblhau a’r deunyddiau sydd eu hangen, manylion ynghylch pryd fydd y taliad yn ddyledus, manylion cyswllt llawn y masnachwr, a’ch hawliau i ganslo’r contract os yn berthnasol.
  • Dylid osgoi talu blaendaliadau mawr mewn arian parod neu drwy drosglwyddiad banc. Cofiwch, os ydych yn talu gydag arian parod neu drwy drosglwyddiad banc heb unrhyw fanylion cyswllt ar gyfer y masnachwr, mae’n bosibl na fydd modd i chi arfer eich hawliau fel defnyddiwr na chael eich arian yn ôl.

Dyma rai argymhellion i’ch helpu chi osgoi masnachwr twyllodrus a dod o hyd i’r masnachwr sy’n addas a chymwys i wneud y gwaith:

  • Lle bo modd, gofynnwch i bobl rydych yn eu hadnabod am awgrymiadau a gofynnwch am enghreifftiau o’r gwaith.
  • Byddwch yn ymwybodol nad yw adolygiadau ar-lein bob amser yn ddilys.
  • Os ydych yn defnyddio cynllun cymeradwyo masnachwyr, gwiriwch pa wiriadau sy’n cael eu cwblhau cyn i fasnachwyr ymuno, ac a yw’r cynllun yn cynnig cynllun unioni os bydd unrhyw broblemau’n codi. Mae ystod eang o gynlluniau ar gael, ac mae rhai ohonynt yn cynnal nifer fawr o wiriadau, ac eraill yn gyfeirlyfrau hysbysebu nad ydynt yn cynnal unrhyw wiriadau ar y masnachwyr a restrir. Mae cynlluniau Safonau Masnach Cymeradwy, megis Prynu Gyda Hyder, yn cynnwys mesurau diogelu. Mae’n rhaid i fasnachwyr fodloni safonau penodol ac mae’r rhain yn cael eu harchwilio gan eu Safonau Masnach lleol cyn y caniateir iddynt gael eu cynnwys yn y cynllun. Gallwch ddod o hyd i fanylion ar eu gwefan www.buywithconfidence.gov.uk
  • Dylech gyfweld contractwyr cyn i chi eu cyflogi, gofynnwch lawer o gwestiynau, a rhowch ddisgrifiad clir a manwl o’r gwaith sydd angen ei wneud. Sicrhewch eich bod yn gallu cyfathrebu â nhw’n rhwydd gan y bydd hyn yn eich helpu i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau sy’n codi.
  • Peidiwch â theimlo dan bwysau i gytuno i gontract. Ceisiwch gymharu masnachwyr gwahanol. Os nad ydych yn gyffyrddus, peidiwch â’u cyflogi, a cheisiwch ddod o hyd i rywun arall.
  • Sicrhewch eu bod yn gymwys i gwblhau’r gwaith y maent yn ei gynnig e.e. tystysgrif Gas Safe neu gofrestriad â’r Gymdeithas Dechnegol Llosgi Olew, neu gofrestriad i weithio fel trydanwr.

Gellir dod o hyd i gyngor defnyddiol pellach ar wefan https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/

Gallwch roi gwybod am broblemau a dod o hyd i gyngor i ddefnyddwyr ar y wefan neu drwy ffonio 0808 2231144.

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Traditional Building Skills Cofrestrwch rŵan ar gyfer cyrsiau sgiliau adeiladu traddodiadol sydd ar gael ym mis Tachwedd.
Erthygl nesaf Fe gefais gic allan o un teulu, ond rŵan wedi creu fy nheulu fy hun, ac mae hynny’n gymaint o fendith Fe gefais gic allan o un teulu, ond rŵan wedi creu fy nheulu fy hun, ac mae hynny’n gymaint o fendith

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

All Saints School Pupils
Aur i Gresffordd – Ysgol yr Holl Saint yn creu hanes yn Wrecsam!
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 7, 2026
Housing Image
Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru
Y cyngor
Hydref 7, 2026
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 6, 2026
The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
Recycling
Y cyngor

Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu

Medi 25, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Y cyngor

Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein

Medi 24, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English