Pa un a ydych yn cyflwyno cais cynllunio, ymholiad rheoli adeiladau neu chwiliad Pridiant Tir – bydd ein system TGCh newydd yn gwneud y pethau hyn i gyd yn gyflymach, yn rhwyddach ac yn fwy cyfleus i gwsmeriaid…
Bydd Cyngor Wrecsam yn cyflwyno system TGCh newydd i brosesu ceisiadau cynllunio a rheoli adeiladau, yn ogystal â chwiliadau Pridiant Tir.
Disgwylir y bydd y system newydd yn mynd yn fyw ar 28 Mai ac y bydd yn caniatáu i dimau Cynllunio, Rheoli Adeiladu a Phridiannau Tir brosesu ceisiadau ac ymholiadau yn fwy effeithiol ac effeithlon.
Bydd hefyd yn ei gwneud yn haws i ymgeiswyr, asiantau, cynghorwyr ac aelodau’r cyhoedd gael mynediad at y gwasanaethau hyn ar-lein.
Fodd bynnag,fe fydd yna gyfnod o darfu ar wasanaethau yn ystod y trawsnewid o’r hen system i’r un newydd a gallai hynny arwain at oedi am gyfnod mewn prosesu ceisiadau ac ymholiadau a gyflwynir ar ôl 13 Mai.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cynllunio: “Mae’r system newydd hon yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn nyfodol ein gwasanaethau Cynllunio, Rheoli Adeiladu a Phridiannau Tir.
“Bydd yn ein helpu ni i ddarparu gwasanaeth sy’n llawer haws i’n cwsmeriaid ei ddefnyddio a hefyd yn ein galluogi ni i ddelio â cheisiadau ac ymholiadau yn llawer mwy effeithiol.
“Efallai y bydd peth oedi wrth i ni symud drosodd i’r system newydd ond dim ond dros dro fydd hyn a bydd y manteision hirdymor i gwsmeriaid a’r cyngor yn aruthrol”.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych eisiau cyngor, cysylltwch â’n Tîm Cynllunio, y Tîm Rheoli Adeiladu neu’r Tîm Pridiannau Tir.