Rydym yn falch o gael ymuno â Nerve Tumors UK i gefnogi a chodi ymwybyddiaeth o Niwroffibromatosis, sef un o’r cyflyrau niwro-enetig mwyaf cyffredin, sy’n achosi i diwmorau dyfu ar derfynau nerfau.
Mae yna nifer o gyflyrau meddygol, corfforol a seicolegol yn gysylltiedig ag ef, ac mae gan 60% o’r unigolion sy’n dioddef ohono anableddau dysgu ac mae hyd at 75% wedi’u cofrestru’n anabl.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Mae unigolion sy’n dioddef o NF yn byw mewn poen di-baid, yn gallu bod yn ddiamddiffyn ac yn aml wedi’u hynysu.
I ddangos cefnogaeth i’r unigolion hynny y mae’r cyflwr hwn yn effeithio arnyn nhw, a’u teuluoedd a’u gofalwyr, byddwn yn goleuo Neuadd y Dref yn las nos Fawrth 17 Mai, a bydd dros 200 o leoliadau eraill ledled y DU ac Iwerddon yn ymuno â ni i wneud yr un fath.
Mae’r digwyddiad hefyd yn nodi 40 mlynedd ers sefydlu Nerve Tumors UK, sef llais blaenllaw a rhwydwaith cymorth pobl sy’n byw gyda Niwroffibromatosis.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH