Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Taflu goleuni ar welliannau i ganolfan chwaraeon defnydd deuol Ysgol Rhiwabon
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Taflu goleuni ar welliannau i ganolfan chwaraeon defnydd deuol Ysgol Rhiwabon
Busnes ac addysgY cyngor

Taflu goleuni ar welliannau i ganolfan chwaraeon defnydd deuol Ysgol Rhiwabon

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 3, 2020 11:52 am
Rhannu
Darllen 3 funud
LED upgrade at school’s dual-use sports centre is de-LIGHT-ful
RHANNU

Mae Ysgol Rhiwabon wedi elwa’n ddiweddar ar welliannau i oleuadau ei chanolfan chwaraeon defnydd deuol, gyda goleuadau LED wedi’u gosod yn y cyfleuster dros wyliau’r hanner tymor.

Mae’r goleuadau LED newydd yn dod gyda thechnoleg synhwyrydd, a bydd yr ysgol yn gweld gwahaniaeth o ran arbed ynni a pherfformiad.

Mae mynedfa a grisiau’r ganolfan chwaraeon hefyd wedi cael eu huwchraddio, a llawr newydd wedi’i osod yn y mannau hyn.

Half Term update 3
The Sports Centre is benefiting from a project to improve the performance and energy efficiency of the centre lighting.
The design using LED luminaries & sensor technology will also reduce the energy consumption & improve the lights for all sports#investment pic.twitter.com/MaXy47bmx7

— Ysgol Rhiwabon (@YsgolRhiwabon) February 18, 2020

Meddai Rheolwr Canolfan Freedom Leisure, David Watkin: “Mae’r buddsoddiad yn Rhiwabon wedi gweld gwelliant trawiadol yn lefelau goleuo’r neuadd. Gydag opsiwn i’w haddasu i 1200lux, mae’n atgynhyrchu golau dydd. Mae hyn yn rhagori ar y lefelau goleuo a argymhellir ar gyfer datblygu criced rhanbarthol, a bydd yn sicrhau bod Rhiwabon yn parhau i fod yn Ganolfan ranbarthol ar gyfer yr holl hyfforddiant criced yng Ngogledd Cymru.”

COFRESTRWCH I DALU AM GASGLIADAU BIN

Buddsoddiad o bron i £120,000

Daeth y gwelliannau fel rhan o brosiect a gefnogir gan Freedom Leisure a Chyngor Wrecsam, fydd yn gweld goleuadau’n cael eu hailosod ym mhump o’n canolfannau defnydd deuol.

Mae bron i £120,000 wedi cael ei fuddsoddi yn y prosiect, gyda chanolfannau chwaraeon Ysgol Morgan Llwyd, Ysgol Clywedog, Ysgol Uwchradd Rhosnesni ac Ysgol Uwchradd Darland hefyd yn elwa.

Meddai Mrs Melanie Ferron-Evans, Pennaeth Ysgol Rhiwabon: “Rydym wrth ein boddau gyda’r buddsoddiad a wnaed gan CBSW a Freedom Leisure mewn gwelliannau i oleuadau ein canolfan chwaraeon. Rydym wedi elwa ar fwy o olau o well ansawdd ac hefyd ar leihad yn ein hôl troed carbon fel ysgol. Mae ein Hadran Chwaraeon yn un o’r cryfaf ac rydym wir yn gwerthfawrogi’r cyfleusterau ardderchog sydd gennym i’w cynnig i’n myfyrwyr.”

Meddai Emma Williams, Swyddog Arbed Ynni Cyngor Wrecsam: “Mae’n newyddion gwych fod y goleuadau LED newydd bellach wedi cael eu gosod yn Ysgol Rhiwabon; mae’r ysgol a defnyddwyr y cyfleuster eisoes wedi sylwi ar y gwelliant. Gobeithio y bydd y buddsoddiad sylweddol mewn gwella canolfannau chwaraeon defnydd deuol yn parhau i olygu bod ein hadeiladau’n defnyddio ynni’n fwy effeithlon, ac yn cefnogi ein gwaith ar Ddatgarboneiddio.”

Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://beta.wrecsam.gov.uk/service/beth-syn-mynd-ir-bincynwysyddion-ailgylchu/gwasanaeth-casglu-gwastraff-gardd”] RYDW I EISIAU TALU RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol sheltered housing £16.9m i wella ac adnewyddu ein tai gwarchod
Erthygl nesaf Bus pass renewal at your library NODYN ATGOFFA – dim ond pasys bws newydd a dderbynnir rŵan i deithio

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English