Fis Medi bydd Wrecsam yn croesawu ras feicio fwyaf y Deyrnas Unedig, Taith Prydain, am y tro cyntaf ers wyth mlynedd.
Mae Wrecsam mewn sefyllfa unigryw yn Nhaith 2023 gan mai dyma’r unig ranbarth i gynnal cychwyn a diwedd y ras.
- Bydd llinell gychwyn a diwedd y ras wedi’i lleoli ar Stryt Caer
- Disgwylir i’r beicwyr adael am 11:45am ar hyd cylchfan Ffordd Powell ac ymlaen i Stryt Caer
- Disgwylir i’r beicwyr ddychwelyd tua 2:30pm ar hyd Stryt y Twtil, Stryt Yorke ac ymlaen i Stryt Caer
- Bydd ardal y llwyfan ym maes parcio’r Llyfrgell
- Bydd Pentref y Daith a gweithgareddau/stondinau ychwanegol yn Llwyn Isaf
Bydd rhwystrau i’r dyrfa yn cael eu gosod naill ochr i’r ffordd o gylchfan Ffordd Powell i lawr at Stryt y Twtil.
Ni chaniateir parcio ar y stryd na chyflenwadau ar hyd 8km olaf y llwybr rhwng 10am a 3pm (cyfyngiadau Stryt Caer wedi’u nodi isod). Bydd unrhyw gerbyd sy’n cael ei adael heb oruchwyliaeth yn cael ei symud o’r safle ac yn cael ei gymryd i gompownd a bydd angen talu ffi i gael y cerbyd yn ôl.
Dydd Llun 3 Medi
Ni chaniateir parcio ar y stryd ar Stryt Caer o 6pm ddydd Sul 3 Medi. Bydd Stryt Caer yn ailagor ar ôl y ras ddydd Llun 4 Medi.
6am ymlaen – Paratoi ar gyfer y digwyddiad ar Stryt Caer
Bydd y ffordd gyfan ar gau o gylchfan Ffordd Powell at gyffordd Stryt Holt (Wingetts). Bydd mynediad i gerddwyr yn cael ei ganiatáu.
Bydd mynediad i gerbydau yn cael ei ganiatáu hyd at yr ardal i gerddwyr ar Stryt Caer (tan 1pm) – fodd bynnag, dim ond troi i’r dde i Stryt Holt y caniateir i gerbydau.
Meysydd Parcio
Ni fydd yna fynediad i’r meysydd parcio canlynol ar hyd Stryt Caer:
- Canolfan Byd Dŵr (Freedom Leisure)
- Y Llyfrgell
- Neuadd y Dref (Aelodau)
- Hwb Lles
- Y Neuadd Goffa
Bydd modd cyrraedd maes parcio staff yr Hwb Lles ar hyd Stryt Holt (a fydd yn cael ei reoli gan reolaeth draffig). Ni fydd modd cyrraedd/gadael rhwng 1:30pm a 4:00pm pan fydd disgwyl i’r beicwyr ddychwelyd.
Bydd rhan o faes parcio arhosiad hir Canolfan Byd Dŵr yn cael ei ddefnyddio i ddeiliaid bathodyn glas, a bydd modd cyrraedd ar hyd Stryt Holt (fydd yn cael ei reoli gan reolaeth draffig).
- Bydd maes parcio San Silyn ar gau o 1pm a bydd yn ailagor pan fydd Stryt y Twtil yn ailagor
Mae trefniadau parcio eraill yn cael eu hystyried, ond fe anogir pobl i ddefnyddio dulliau teithio llesol a chludiant cyhoeddus i gyrraedd canol y ddinas.
1pm – tua 6pm
Bydd trefniadau cau Stryt Caer yn cael eu hymestyn i lawr Stryt y Twtil. Ni chaniateir mynediad i unrhyw gerbyd yn ystod y cyfnod yma.
Mae disgwyl i’r beicwyr gyrraedd tua 2.30pm. Pan fydd y ras wedi gorffen, bydd y gwaith o dynnu popeth i lawr yn cychwyn. Bydd y ffyrdd yn cael eu hailagor pan fydd hi’n ddiogel i wneud hynny.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio, “Gan fod digwyddiad mor fawr yn cael ei chynnal yn Wrecsam mae’n anochel y bydd yn achosi anghyfleustra i ddefnyddwyr y ffordd.
“Byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau bod yr effaith hwn mor fach â phosibl a bydd canol y ddinas yn manteisio o lif o ymwelwyr a ddisgwylir o bob rhanbarth.”
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Taith Prydain . Map o’r Daith
Bydd Llwyn isaf yn cynnal pentref i’r daith ar y diwrnod a fydd yn cynnwys
• Stondin swyddogol Tour of Britain
• Stondinau lleol
• Teganau gwynt
• Gweithgareddau beicio a chyrsiau rhwystrau