Person ifanc rhwng 16 a 25 oed yw rhywun sydd yn gadael gofal, sydd wedi derbyn gofal y tu allan i’w teulu ar ryw adeg.
Gall y cyfnod rhwng bod mewn gofal ac yna gadael gofal fod yn brofiad anodd iawn, yn enwedig pan fydd rhywun mor ifanc.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Yn rhan o wythnos Pobl sy’n Gadael Gofal rydym wedi gwahodd rhai o’n pobl ifanc sydd wedi gadael gofal i rannu eu profiadau, cyngor, eu straeon, eu cynlluniau a’u dyheadau ar gyfer y dyfodol.
Mae straeon rhai o’r bobl ifanc wedi bod yn emosiynol iawn a heblaw am newidiadau bach mewn rhai achosion i helpu i’w cadw’n ddienw, mae’r geiriau ysbrydoledig yn cael eu siarad gan y bobl ifanc eu hunain.
Gofynnwyd yr un cwestiwn i’r bobl ifanc sydd wedi gadael gofal, ac mae’r atebion yn dangos bod eu hamgylchiadau personol a’u personoliaethau wedi golygu profiadau gwahanol iawn.
Rydym ni’n gobeithio y bydd eu geiriau cynnig cysur, cyngor ac ysbrydoliaeth i oedolion ifanc eraill mewn sefyllfaoedd tebyg…
Rydw i’n 19 oed ac yn gadael gofal ar ôl 4 blynedd. Roedd gwarcheidwad fy nheulu yn troi’n fwyfwy camdriniol tuag ataf gan gyrraedd y pwynt y byddai’n ymosod arna i’n gorfforol ac yn fy nhagu yn sgil dirywiad yn ei alluedd meddyliol, a dyna’r rheswm y bûm mewn gofal. Mae’n well gen i beidio â sôn ynglŷn â sut roeddwn i yng ngofal gwarcheidwad fy nheulu, sori.
Roedd y modd y cefais fy nghymryd i ofal y gwasanaethau cymdeithasol ac yna gofal maeth yn eithaf diseremoni, roedd yn dro sydyn ar fy mywyd yn sgil sylw bach gen i wrth fy nghymhorthydd addysgu a ofynnodd pam bod gen i glais ar fy wyneb, a fy ateb syml i oedd ‘cefais fy nyrnu gan warcheidwad fy nheulu’.
Cefais fy ngludo yn gyflym i’r ysbyty agosaf yn dilyn y sylw yma gydag aelodau staff agos a fu’n fy nghefnogi i. Teimlais fy mod yn cael fy mradychu wrth iddynt egluro na allwn i fynd yn ôl at warcheidwad fy nheulu gan bod fy niogelwch mewn perygl. Ar yr adeg yma, fe sylweddolais fy mod yn dioddef o ddadwireddiad o fy sefyllfa drasig fy hun. Pan gefais fy nghymryd oddi wrth warcheidwad fy nheulu roeddwn i wedi bod gydag o ers fy ngenedigaeth. Rhaid cofio bod ei alluoedd meddyliol (yn fy marn i) yn dirywio pan oeddwn i’n 8 oed, a dyna pryd ddechreuodd y problemau.
Er gwybodaeth, rydw i wedi bod yng ngofal 2 Ofalwr Maeth, rwyf am eu galw’n *A a *B am resymau cyfrinachedd.
Fe ddes mewn i’r system ofal pan oeddwn i’n 14 oed, ac rydw i wedi bod mewn gofal ers 4 blynedd.
Cefais fy lleoli gyda fy ngofalwr maeth cyntaf, *A yn syth ar ôl i mi gael fy nghymryd oddi wrth warcheidwad fy nheulu.
Er bod *A yn rhywun y buaswn i’n ei ystyried yn ecsentrig, rhoddodd *A wybodaeth sylfaenol i mi ynglŷn â sut i dacluso fy hun, cymryd cawod, hylendid sylfaenol. Fe gymerodd hi fy ngemau fideo oddi arna i hefyd. Roeddwn i’n ddibynnol ar y rhain i dynnu fy sylw oddi ar fy iselder. Roeddwn i’n ddig am hyn, ond ar ôl 6 mis roeddwn i’n cael blas ar fynd allan i weithio ar y fferm fel diddordeb iachach newydd.
Serch hynny, fe hoffwn i petawn i wedi cael rhywfaint o weithgaredd ar-lein er mwyn i mi gadw mewn cysylltiad gyda fy ffrindiau. Tra roeddwn i gyda *A, fe ges i Weithiwr Cymdeithasol, rwyf am ei galw’n *C. Roeddwn i’n tynnu ‘mlaen yn iawn gyda hi, ond nid oedd *A a hithau’n cyd-dynnu gan wneud pethau’n anodd ac yn lletchwith pan oedd rhaid iddynt gyfnewid gwybodaeth amdana i. Fe fyddai wedi bod yn llawer haws bod mewn lleoliad gyda gweithiwr cymdeithasol petai’r gweithiwr cymdeithasol yn tynnu ‘mlaen gyda fi a fy ngofalwr maeth.
Yn anffodus daeth fy nghyfnod gyda *A i ben pan fu farw ei thad a bu’n rhaid i mi ei weld yn dioddef yn sgil ei anhwylder dirywiol. O’r hyn sy’n ymddangos yn ddial (o fy safbwynt i), manteisiodd *C ar y sefyllfa a phenderfynodd nad oedd hi’n ddiogel i mi fod gyda *A, yn sgil ei hecsentrigrwydd a fy iselder ymddangosiadol i ar ôl marwolaeth ei thad, cefais fy rhoi mewn gofal ‘Seibiant’ gyda *B am 2 ddiwrnod.
Yn y diwedd, trodd y 2 ddiwrnod yma’n 3 blynedd gan fy mod yn tynnu ‘mlaen yn dda gyda phawb oedd yn byw gyda *B, roedd yn help i mi hefyd fy mod wedi cael y gemau yn ôl er mwyn gallu ymddwyn fel plentyn arferol yn ei arddegau.
Mae’r 3 blynedd a dreuliais gyda *B a phawb wedi mynd heibio mor gyflym wrth i mi edrych yn ôl ar y cyfnod. Pan gefais i fy rhoi gyda *B, cefais weithiwr cymdeithasol newydd, ac yn wahanol i *C, roedd hi’n tynnu ‘mlaen gyda *B a minnau’n eithaf da, gan wneud pethau’n gymaint haws.
Gan neidio at ddiwedd fy lleoliad fel gefais Weithiwr Gadael Gofal sydd wedi bod yn help mawr i mi gyda phopeth, a bydd yn parhau i wneud hynny. Mae o wedi bod yn anhygoel yn rhoi cefnogaeth i mi ac rydym ni’n tynnu ‘mlaen yn dda iawn yn anffurfiol hefyd.
Ar ôl i mi symud i fyw’n annibynnol ar y dechrau, roeddwn i’n hiraethu am adref, roeddwn i’n teimlo’n unig, ond pan ges i fynediad at y rhyngrwyd, roedd modd i mi siarad gyda fy ffrindiau agosaf a fy ngofalwyr blaenorol yn hawdd.
Roedd hi’n haws ymdopi â bywyd ar ôl hynny. Ond gan fy mod wedi symud o fod gyda theulu o 7 i fod ar ben fy hun, roedd y diffyg sŵn yn gyffredinol yn eithaf annifyrrol ac er mwyn lleddfu hyn, fe ddechreuais wrando ar gerddoriaeth a dechrau canu/hymian i mi fy hun tra’n coginio a thacluso.
I ddechrau, roeddwn i’n byw oddi ar brydau parod a bwyd oer o’r siop Premier agosaf. Tra roeddwn i mewn gofal, fe anogodd fy ngofalwr mi i ddechrau coginio, ond dim ond tuag at ddiwedd fy nghyfnod yno y dechreuais i wneud hynny. Fe hoffwn i petawn i wedi gwneud bwyd i mi’n hun cyn byw’n annibynnol ble nad oedd rhaid i mi boeni am dalu am y cynhwysion.
Erbyn hyn, pan rydw i’n coginio, does gen i ddim cyfle i arbrofi neu fel arall buaswn yn llwgu. Wrth edrych yn ôl, roedd y cyfnod cychwynnol o fyw oddi ar brydau parod yn gostus iawn, ac fe allwn i fod wedi gwario’r arian yna’n rhywle arall a’i gynilo.
Mae fy niddordebau academaidd yn ymwneud â’r corff a’r system imiwnedd, mae gen i ddiddordeb mewn dysgu sut mae’r system imiwnedd ac afiechydon yn ymladd yn erbyn ei gilydd. Mae’n rhyw fath o ffantasi plentyn yr hoffwn i ymbleseru ynddo. Gobeithio y bydd fy niddordeb yn y system imiwnedd yn arwain at astudio gradd Meistr mewn imiwnoleg.
Mae fy hobïau cyffredinol yn eithaf nodweddiadol, dwi’n mwynau chwarae gemau fideo ar-lein ond ddim gymaint ar chwaraeon. Serch hynny, dwi’n mwynhau mynd allan am dro. Mae fy hobïau mwy arbenigol yn cynnwys chwarae gwyddbwyll, ac yn fwy diweddar dwi wedi dysgu chwarae Shog (gwyddbwyll Japaneaidd), mae gen i gasgliad o giwbiau Rubix hefyd rydw i’n hoffi eu datrys yn fy amser rhydd.
‘Dw i ym Mhrifysgol ar hyn o bryd yn astudio gradd BSc mewn Gwyddoniaeth Fiofeddygol, fel y soniais yn fy hobïau a diddordebau, fe hoffwn i astudio gradd MSc Imiwnoleg. Petawn i’n cwblhau fy ngraddau, fe hoffwn weithio yn rywle sydd yn arbenigo yn y system imiwnedd, ‘dwn i ddim pa swydd benodol fyddai hi, ond fe fydd y cyfleoedd swyddi ym maes cynhyrchion fferyllol, gan ddod yn Wyddonydd Ymchwil, neu yn Wyddonydd Biofeddygol gan arbenigo mewn Imiwnoleg.
Os ydych chi’n rhywun sy’n gadael gofal ac eisiau cyngor, cysylltwch â’r tim gadael gofal :01978295610
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am ddod yn ofalwr maeth cysylltwch â:Taylor Downes , 01978295316 , Taylor.Downes@wrexham.gov.uk
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am gynnig llety â chefnogaeth, cysylltwch â:Sara Jones – sara.jones@wrexham.gov.uk, 01978295320