Am y tro cyntaf erioed bydd y Ras Terry Fox yn cael ei chynnal yng Nghymru yn Y Parciau yn Wrecsam.
Mae’r newyddion yn dilyn sawl blwyddyn o ddigwyddiadau llwyddiannus y DU yn Llundain er anrhydedd i Terry Fox, yr arwr o Ganada.
- Ble: Y Parciau, Wrecsam (map)
- Pryd: Dydd Sul, 13 Hydref 2024 – 12:00 – 15:00
Sut i gymryd rhan yn y Ras Terry Fox
Gallwch gofrestru nawr i redeg, beicio neu gerdded llwybr 2.5k neu 5k o amgylch y parc.
Mae’r Ras Terry Fox eiconig am ddim i gofrestru, heb fod yn gystadleuol ac yn agored i bawb. Y nod yw codi arian ar gyfer ymchwil canser i’r Sefydliad Ymchwil Canser yn enw arwr go iawn o Ganada!
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Cyng Mark Pritchard, “Er nad yw Cymru erioed wedi cynnal Ras Terry Fox, yn y 1980au hyd at 2007 roedd y Ras Terry Fox yn sefydlog yn y calendr ar draws y DU. Nawr, am y tro cyntaf mewn 44 mlynedd, mae Wrecsam wedi croesawu Ras Terry Fox!
“Rwy’n falch fod Wrecsam yn arwain y ffordd i gynnal y digwyddiad hwn yng Nghymru ac nid yn unig fydd hwn yn ddiwrnod i’w fwynhau yn un o barciau godidog Wrecsam, bydd yn codi arian ar gyfer ymchwil canser yn y DU.”
“Rwy’n dymuno diwrnod llwyddiannus iawn a llawn mwynhad i’r trefnwyr a phawb sy’n cymryd rhan.”
Darganfyddiadau cefnogol i helpu cleifion canser yn Wrecsam ac o amgylch y byd
Mae’r Sefydliad Ymchwil Canser (ICR) yn un o sefydliadau ymchwil canser mwyaf dylanwadol y byd. Mae gan yr ICR gofnod rhagorol o gyflawniad yn dyddio yn ôl mwy na 100 mlynedd.
Darparodd ymchwilwyr yn yr ICR y dystiolaeth ddarbwyllol gyntaf mai niwed DNA yw achos sylfaenol canser, sy’n gosod y sylfaen ar gyfer y syniad a dderbynnir yn gyffredinol bod canser yn glefyd genetig.
Heddiw mae’r ICR yn arweinydd y byd yn nodi genynnau cysylltiedig â chanser ac yn darganfod cyffuriau newydd a dargedwyd ar gyfer personoli triniaeth ganser – therapïau fel abiraterone, cyffur canser y prostad a ddefnyddir i drin cannoedd o filoedd o ddynion o amgylch y byd.
Cafodd yr Athro Chris Bakal, Athro Morffodynamig Canser yn y Sefydliad Ymchwil Canser, Llundain ei eni yng Nghanada ac mae’n llysgennad Cymdeithas Terry Fox y DU. Dywedodd yr Athro Bakal, “Yn dilyn siwrnai Terry wrth imi dyfu i fyny mewn tref fechan yng Nghanada, cefais fy ysbrydoli ganddo i fod yn ymchwilydd canser, ac mae ei ddyfalbarhad a’i ymrwymiad yn cymell ein gwaith yn y lab.
“Dangosodd Terry imi hefyd y gallwn i gyd wneud rhywbeth yn y frwydr yn erbyn canser. Mae pob cam a wnawn mewn Ras Terry Fox yn ein cael ychydig yn agosach at frwydo’r clefyd hwn drwy gefnogi ymchwil canser blaengar.”
Mae trefnwyr y digwyddiad codi arian, sy’n benodol yn cefnogi’r Sefydliad Ymchwil Canser, Llundain yn falch o gael cefnogaeth cydberchennog Canadiad CPD Wrecsam, Ryan Reynolds.
Pwy oedd Terry Fox?
Roedd Terry Fox yn athletwr 22 oed wnaeth golli ei goes dde i ganser yr asgwrn prin, osteogenig sarcoma. Drwy redeg ar goes brosthetig, cyrhaeddodd benawdau ledled y byd yn 1980 pan redodd 3,339 milltir dros 143 diwrnod, marathon y dydd ar gyfartaledd, ar draws Canada. Galwodd ef yn ‘Farathon Gobaith’. Ei ddiben oedd codi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer ymchwil canser.
Bu’n rhaid i Terry roi’r gorau i redeg pan ledaenodd y canser i’w ysgyfaint a llai na blwyddyn yn ddiweddarach, bu farw. Ar ôl iddo orfod rhoi’r gorau, ei eiriau oedd, “Hyd yn oed os nad wyf i’n goroesi, rydym angen i eraill barhau.”
Mae bellach yn cael ei ystyried yn arwr o Ganada a phob blwyddyn ers 1981, cynhelir Ras Terry Fox mewn mwy na 60 dinas o amgylch y byd. Hyd yma, mae mwy na £500 wedi’i godi ar gyfer ymchwil canser drwy’r rasys elusen hyn.
Gweler y fideo isod i weld yr hyn y gallwch ei ddisgwyl os byddwch yn cymryd rhan mewn Ras Terry Fox:
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Woody’s Lodge yn agor ei siop elusen gyntaf yn Wrecsam i gefnogi cyn-filwyr a’r gwasanaethau golau glas
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch