Cafodd disgyblion o ysgol uwchradd yn Wrecsam y cyfle i ymarfer ar gaeau hyfforddi un o glybiau pêl-droed gorau Ewrop yn ystod taith ddiweddar i Sbaen.
Cafodd rai o sêr chwaraeon y dyfodol o Ysgol Bryn Alyn, Gwersyllt, y cyfle i ymarfer yn Ciudad Real Madrid (Dinas Real Madrid) yn Valdebabas, Sbaen – sef y cyfadeilad hyfforddi a ddefnyddir gan Real Madrid.
Aeth y disgyblion i ymweld â’r caeau hyfforddi ar ddechrau mis Hydref.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Trefnwyd y daith gan Andy Jones, Pennaeth y Gyfadran Iechyd a Lles yn Ysgol Bryn Alyn, ar y cyd ag Inspiresport, sef cwmni sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd ac sy’n cynnig teithiau datblygiadau chwaraeon i gaeau hyfforddi ar draws Ewrop i sefydliadau megis clybiau ac ysgolion.
Bu i dros 40 o ddisgyblion o Flynyddoedd 8, 9,10 ac 11 gymryd rhan yn y daith a chael cyfle i hyfforddi.
“Mae’n anodd iawn i ennill yno”
Dywedodd Mr Jones: “Mae gennych y cyfle i dreulio wythnos yno a hyfforddi bob bore. Cewch ddefnyddio eu cyfleusterau ac mae’r hyfforddwyr yno, rydych yn cael blas ar rai o’r ymarferion hyfforddi y mae’r tîm cyntaf yn eu gwneud.”
Cafodd y disgyblion hefyd gyfle i chwarae yn erbyn tîm lleol, Academi Moratalaz, gan ennill dwy allan o dair gêm.
Dywedodd Mr Jones: “Mae rhai o’r disgyblion a oedd ar y daith yn chwarae ar gyfer timau ieuenctid megis Brymbo a Penycae, ond mae rhai nad ydynt yn chwarae’n rheolaidd, felly roedd hwn yn gyfle da iawn i bawb.
Ychwanegodd: “Mae’n anodd iawn i ennill yno – mae’n gêm wahanol iawn, llawer cyflymach gyda chyswllt cyfyngedig.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN