Mae’r Grant Cymorth Tai yn rhaglen grant refeniw ymyrraeth gynnar sydd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae’n helpu i gefnogi gweithgareddau gyda’r nod o atal pobl rhag dod yn ddigartref, yn ogystal â’u galluogi nhw i sefydlogi eu sefyllfa dai pan fyddent mewn argyfwng. Mae hefyd yn helpu pobl sy’n dod yn ddigartref i ddod o hyd i, a chadw llety.
Mae tîm ymroddedig o fewn yr Adran Dai sy’n gweithio ar y Grant Cymorth Tai trwy gynllunio’n ofalus a chomisiynu gwasanaethau sy’n gweddu anghenion newidiol pobl Wrecsam sy’n ddigartref neu’n wynebu digartrefedd.
Mae’r tîm yn gweithio’n galed i sicrhau bod Cyngor Wrecsam yn cydymffurfio’n llawn â deddfwriaeth a chanllawiau amrywiol.
Gall ddiwrnod mewn bywyd aelod o’r tîm gynnwys ymchwilio, casglu a dadansoddi data i helpu canfod bylchau mewn gwasanaeth a datblygu blaenoriaethau comisiynu Wrecsam.
Mae’r tîm hefyd yn gweithio’n agos gyda nifer o ddarparwyr yn Wrecsam er mwyn sicrhau bod cleientiaid yn cael y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i gynnal eu tai.
Mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu “Grant Cymorth Tai” i awdurdodau lleol yng Nghymru er mwyn cefnogi ystod o brosiectau gan gynnwys atal digartrefedd a sefydlogi sefyllfaoedd tai.
Mae swm y Grant Cymorth Tai a ddyfernir i Gyngor Wrecsam yn flynyddol, ar hyn o bryd yn ariannu neu’n rhannol ariannu dros 30 o brosiectau o fewn Wrecsam er mwyn helpu pobl sydd mewn argyfwng.
Mae’r mathau o brosiectau a ariennir yn amrywio, o lety â chymorth, estyn allan a chefnogaeth yn ôl yr angen, camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, cefnogaeth trais domestig a chefnogaeth ar gyfer pobl a all wynebu problemau iechyd meddwl.
Mewn cydweithrediad â’r Grant Cymorth Tai a’r Tîm Datblygu, mae Tîm Porth sy’n gweithio’n galed i gynnig cefnogaeth i’r rhai sy’n ddigartref neu’n datgan eu bod yn ddigartref.
Mae’r tîm Grant Cymorth Tai wedi delio â nifer o achosion ar draws eu gwaith a gall amrywio o achos i achos.
Gall y gefnogaeth a ddarperir amrywio yn ddyddiol ac mae graddfa’r gefnogaeth sydd ei angen yn dibynnu ar yr unigolyn. Mae’r tîm wedi cefnogi pobl gyda phroblemau camddefnyddio alcohol, camddefnyddio cyffuriau, yn ei chael yn anodd yn ariannol, a llawer mwy.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai a Newid Hinsawdd, “Mae cefnogi pobl yn Wrecsam i gynnal neu chwilio am dai yn flaenoriaeth i’n Hadran Dai. Mae’n bwysig ein bod ni wrth law i gefnogi’r rhai mewn angen trwy gydol y broses, a bod ein Tîm Cymorth Tai yn darparu gwasanaeth hanfodol”
Os hoffech chi ofyn am gefnogaeth yn ymwneud â thai, gallwch wneud cais eich hun drwy gwblhau ein ffurflen hunanatgyfeiriad, anfonwch e-bost at housingsupportgateway@wrexham.gov.uk i wneud cais.
Fel arall fe allwch chi ofyn i’ch swyddog tai, gweithiwr cefnogi, gweithiwr cymdeithasol neu weithiwr iechyd proffesiynol wneud cais ar eich rhan.
Dewch o hyd i fwy o wybodaeth ar y Grant Cymorth Tai ar ein gwefan