Nôl ym mis Tachwedd, cyrhaeddodd tîm o ddisgyblion o Ysgol Clywedog rownd derfynol Her Cwadrennydd Raytheon.
Gwelodd yr her ysgolion o bob cwr o’r DU yn cystadlu i ddylunio, adeiladu a llywio drôn pedwar llafn a reolir o bell. Roedd gofyn i fyfyrwyr addasu eu hunedau i ddatrys heriau technolegol, cymdeithasol neu economaidd hefyd.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Cyrhaeddodd Tîm Clywedog y brig ymysg ysgolion o Gymru, ac yn bumed yn gyffredinol o’r holl ysgolion a gystadlodd ar draws y DU.
Yn dilyn eu buddugoliaeth yng nghystadleuaeth y cwadfrennydd, cyflwynwyd Gwobrau Balchder Bro i’r tîm gan y Cllr Rob Walsh, Maer Wrecsam, mewn seremoni wobrwyo yn Neuadd y Dref.
Cynhaliwyd y seremoni ar ddechrau cyfarfod y Cyngor llawn ar 18 Rhagfyr.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN