Yn ddiweddar, mae ambell achos wedi bod lle mae pobl wedi gadael gwastraff y tu allan i giatiau’r canolfannau ailgylchu yn Wrecsam tra oedd y safleoedd ar gau.
Rydym eisiau atgoffa preswylwyr na ddylent wneud hyn – mae’n cyfrif fel tipio anghyfreithlon. Mae unrhyw un sy’n tipio’n anghyfreithlon mewn perygl o gael rhybudd cosb benodedig neu hyd yn oed o gael eu herlyn.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Os ewch chi i ganolfan ailgylchu a’i bod ar gau pan gyrhaeddwch chi, gofynnwn i chi fynd â’ch gwastraff adref gyda chi a dod yn ôl pan mae’r safle ar agor. Gallwch weld oriau agor y canolfannau ailgylchu yn Wrecsam ar ein gwefan.”
Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.
Byddwch yn ofalus wrth dalu rhywun i fynd â’ch gwastraff
Mae gennym “ddyletswydd gofal” fel deiliaid tai i sicrhau bod gan unrhyw un yr ydym yn ei ddefnyddio i fynd â’n sbwriel Drwydded Cludydd Gwastraff swyddogol sy’n caniatáu iddynt wneud hynny.
Bydd y rhan fwyaf o gwmnïau dilys yn fodlon dangos eu Trwydded i chi a’ch sicrhau y byddant yn cael gwared â’ch sbwriel mewn ffordd gyfrifol mewn safle gwastraff dynodedig priodol. Hyd yn oed os ydynt yn gwneud hyn, dylech wirio ei bod yn drwydded ddilys. Gallwch chwilio am unrhyw gwmni ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Os nad oes ganddynt Drwydded mae’n debygol iawn y bydd eich sbwriel yn cael ei dipio’n anghyfreithlon, ac os yw’n cael ei olrhain yn ôl i chi, mae perygl y byddwch yn cael dirwy o £300 neu’n cael eich erlyn gyda dirwy hyd at £50,000.
Ewch i’r dudalen Caru Cymru ar ein gwefan i weld mwy ynglŷn â chael gwared â gwastraff yn gyfrifol.
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI