Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen yr anrhegion ewyllys da a gafodd y tenantiaid hyn yn gwenu y Nadolig hwn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > yr anrhegion ewyllys da a gafodd y tenantiaid hyn yn gwenu y Nadolig hwn
Pobl a lleY cyngor

yr anrhegion ewyllys da a gafodd y tenantiaid hyn yn gwenu y Nadolig hwn

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 28, 2017 1:48 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
yr anrhegion ewyllys da a gafodd y tenantiaid hyn yn gwenu y Nadolig hwn
Left to right - Mrs Joan Parry (Erw Gerrig tenant) with CLC staff, 'Baz and Darren', Mrs Gwenda Edwards (Erw Gerrig tenant)
RHANNU

Maen nhw’n dweud bod y Nadolig yn dymor o ewyllys da ac roedd hyn yn wir yng nghynllun tai lloches Erw Gerrig yn ddiweddar.

Cynnwys
  • Ffordd arbennig o ddweud diolch
  • Rhoi croeso i’r gweithwyr
  • Rydym am gyflawni’r safon dai newydd

Mae cynllun Erw Gerrig yn cynnwys 22 eiddo. Mae tenantiaid yma wedi bod yn cael ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd fel rhan o’n prosiect gwelliannau tai.

- Cofrestru -
Wrecsam2029

Roedd y tenantiaid wedi penderfynu rhoi ysgogiad ychwanegol i weithwyr ein contractwyr, CLC i wneud y gwaith yn iawn.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Ffordd arbennig o ddweud diolch

Bob bore, byddai’r tenantiaid yn paratoi rholiau bacwn i’r gweithwyr i wneud yn siŵr eu bod wedi cael digon o fwyd cyn iddynt fwrw ymlaen â’r gwaith pwysig o osod ceginau a’r ystafelloedd ymolchi newydd.

Mae’n rhaid bod y bonws brecwast wedi gwneud y tric, oherwydd yn ogystal â gwneud y gwaith gwella, roedd y gweithwyr o CLC hefyd wedi dyfeisio eu ffordd eu hunain o ddweud diolch.

Oherwydd lletygarwch gwych y tenantiaid, casglodd y gweithwyr £60 ar gyfer tocyn rhodd a’i gyflwyno i Raffl Nadolig y tenantiaid.

Cyflwynwyd tusw o flodau lliwgar i’r tenantiaid hefyd i ddweud diolch yn fawr.

yr anrhegion ewyllys da a gafodd y tenantiaid hyn yn gwenu y Nadolig hwn
O’r chwith i’r dde – Joan Parry (tenant Erw Gerrig), Gweithwyr CLC, ‘Darren a Baz’, Gwenda Edwards (tenant Erw Gerrig)

Rhoi croeso i’r gweithwyr

Eglurodd tenant Erw Gerrig, John White, lle daeth y syniad o: “Cefais y syniad ar ôl i mi weld rhywbeth tebyg yn y cynllun tai gwarchod St Michael yn Rhiwabon. Roeddwn i’n meddwl y byddai’n braf pe gallem ei ymestyn i gweithwyr CLC yma yn Ewr Gerrig felly nes i awgrymu i’n warden a’r tenantiaid a chytunodd pawb ohonom y byddai’n syniad da.

“Rydyn ni i gyd yn hapus iawn hefo’n ceginau newydd. Maent o ansawdd uchel iawn.

“Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn am y tocyn rhodd a’r blodau a gawsom gan weithwyr y CLC. Byddwn ni’n defnyddio’r tocyn ar gyfer bwffe nosweithiau ein blwyddyn newydd, felly rydym oll yn edrych ymlaen at hynny!”

Dywedodd yr Aelod lleol ar gyfer Pant, y Cyng. David Maddocks: “Rwy’n falch iawn bod y gwaith gwella wedi bod yn gymaint o lwyddiant ac mae’n wych clywed am yr haelioni rhwng y tenantiaid a’r contractwyr. Mae John a’r tenantiaid wedi gwneud llawer o ymdrech i groesawu’r gweithwyr ac maent wedi diolch iddynt am eu lletygarwch mewn ffordd deimladwy iawn.

Mae hefyd yn galonogol iawn gweld bod tenantiaid y cyngor yma ac yn yr ardal gyfagos wedi gallu cael budd o’n ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd a bod cartrefi yn cael eu gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol.”

Rydym am gyflawni’r safon dai newydd

Mae gwaith gwella tai yn gwneud cynnydd ar draws y Fwrdeistref Sirol wrth i ni barhau i foderneiddio cartrefi a sicrhau eu bod yn cyflawni Safon Ansawdd Tai Llywodraeth Cymru.

Rydym yn buddsoddi £56.4miliwn yn y gwaith hwn yn 2017/18. Mae hyn yn cynnwys £7.5miliwn o Lwfans Atgyweiriadau Mawr a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol i’w helpu i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru.

Dywedodd yr Aelod Arweiniol Tai, y Cyng David Griffiths: “Rydym wedi gwneud llawer o waith eleni gyda gwelliannau ar filoedd o eiddo fel ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd, ailweirio trydanol, systemau gwres canolog newydd, ail-doi, Inswleiddio Waliau Allanol a gwaith ffensio a phalmentydd.

“Rydym ar y trywydd iawn i gyflawni’r safon ac mae’n wych clywed bod tenantiaid fel y rhai yn Erw Gerrig mor falch gyda’r gwaith a wneir yn eu cartrefi.”

Cewch ragor o wybodaeth am Safon Ansawdd Tai Cymru ar ein gwefan

Gallwch gael newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam gyda Fy Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Top 10 A wnaethoch chi ddarllen ein 10 prif stori yn 2017?
Erthygl nesaf anrhegion nadolig i orffen gwelliannau tai i'r tenantiaid hyn anrhegion nadolig i orffen gwelliannau tai i’r tenantiaid hyn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni
Pobl a lle
Awst 11, 2026
Water
Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr
Arall Fideo
Awst 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English